Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Ystâd Y Gnoll, Castell-nedd - Proposal to Amend Byelaws - Neath Pleasure Grounds Byelaws 1975
What is happening?
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CASTELL-NEDD PORT TALBOT (TEITHIO LLESOL) BWRIAD I DDIWYGIO IS-DDEDDFAU - IS-DDEDDFAU TIROEDD HAMDDEN CASTELL-NEDD 1975
HYSBYSIR trwy hyn, yn unol ag adran 6(5) o is-ddeddfau’r Ddeddf Llywodraeth Leol 2012 (Cymru) fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ (y “Cyngor”) yn dilyn cyfarfod â’r Cyngor Lawn ar 14 Hydref 2026 yn bwriadu diwygio ei is-ddeddfau a grëwyd ym 1975, o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Cyhoeddus 1875 a Deddf Mannau Agored 1906 mewn perthynas â thiroedd hamdden yng Nghastell-nedd, er mwyn caniatáu beicio mewn ardaloedd dynodedig ar Dir y Gnoll a’r Gerddi Coffa yng Nghastell-nedd. Gellir gweld copi drafft o’r is-ddeddfau yn swyddfeydd y Cyngor yn y Ganolfan Ddinesig, Castell-nedd, SA11 3QZ ac yn y Ganolfan Ymwelwyr, Parc Gwledig y Gnoll, Ystâd y Gnoll, Castell-nedd, SA11 3BS am ddim ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos, oni bai am Ŵyl y Banc, yn ystod oriau arferol y swyddfa am gyfnod o chwe wythnos o ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad hwn. Mae copi drafft hefyd ar gael ar wefan y Cyngor yn www.npt.gov.uk.
Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad o ddiwygio’r is-ddeddfau’n ysgrifenedig a’i anfon at Adran yr Amgylchedd, Y Ceiau, Ffordd Brunel, Llansawel, SA11 2GG neu drwy e-bostio environment@ npt.gov.uk (â chyfeirnod ‘Is-ddeddfau Tiroedd Hamdden Castell-nedd’) dim hwyrach nag un wythnos wedi’r dyddiad cau ar gyfer arolygu. Dyddiedig y 22 diwrnod hwn o Gorfennaf 2026.
Prif Swyddog Cyfreithiol, Canolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact South Wales Evening Post directly at: