Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Blaenau Gwent - Darpariaethau Amrywiol Ynghylch Prisiau Cerbydau Llogi
What is happening?
TABL PRISIAU
CERBYDAU HUR
Rhoddir hysbysiad drwy hyn, yn unol ag Adran 65 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976, fod Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig pennu tabl o brisiau ar gyfer cerbydau hur, fel sy’n dilyn:
| Hurio Arfaethedig |
Pris Arfaethedig |
|---|---|
| Tariff 1 (1 i 4 o deithwyr ar gyfer hurio rhwng 6am a 10pm) |
|
| Ar gyfer y filltir gyntaf neu ran o hynny |
£4.50 |
| Ar gyfer 1/12fed milltir neu ran o hynny |
23p |
| Tariff 2 (1 i 4 o deithwyr ar gyfer hurio yn dechrau rhwng 10pm a 6am) |
|
| Ar gyfer y filltir gyntaf neu ran o hynny |
£5.63 |
| Ar gyfer 1/12fed milltir neu ran o hynny |
28p |
| Tariff 3 (1 i 4 o deithwyr ar gyfer hurio o 6pm Noswyl Nadolig I 6am 27 Rhagfyr, o 6pm Nos Galan i 6am 2 Ionawr) |
|
| Ar gyfer y filltir gyntaf neu ran o hynny |
£9.00 |
| Ar gyfer 1/12fed milltir neu ran o hynny |
45p |
| Tariff 4 (1 i 4 o deithwyr ar gyfer hurio ar Ŵyl Banc y Gwanwyn, Dydd Llun y Pasg, Gŵyl Banc Diwedd Haf ac unrhyw Ŵyl Banc arall nas cyfeiriwyd ati eisoes (6am i 6am) AC 5 i 8 o deithwyr ar gyfer hurio yn dechrau rhwng 6am a 10pm) |
|
| Ar gyfer y filltir gyntaf neu ran o hynny |
£6.75 |
| Ar gyfer 1/12fed milltir neu ran o hynny |
34p |
| Tariff 5 (5 i 8 o deithwyr ar gyfer hurio o Noswyl Nadolig i 6am 27 Rhagfyr, o 6pm Nos Galan i 6am 2 Ionawr) |
|
| Ar gyfer y filltir gyntaf neu ran o hynny |
£13.50 |
| Ar gyfer 1/12fed milltir neu ran o hynny |
68p |
| Tariff 6 (5 i 8 o deithwyr ar gyfer hurio yn dechrau rhwng 10pm a 6am) |
|
| Ar gyfer y filltir gyntaf neu ran o hynny |
£9.00 |
| Ar gyfer 1/12fed milltir neu ran o hynny |
45p |
| Tariff 7 (5 i 8 o deithwyr ar gyfer hurio ar Ŵyl Banc y Gwanwyn, Dydd Llun y Pasg, Gŵyl Banc Diwedd Haf ac unrhyw Ŵyl Banc arall nas cyfeiriwyd ati eisoes (6am i 6am) |
|
| Ar gyfer y filltir gyntaf neu ran o hynny |
£10.13 |
| Ar gyfer 1/12fed milltir neu ran o hynny |
51p |
| Taliadau Ychwanegol Amser aros am bob cyfnod o 30 eiliad neu ran o hynny |
10p |
| Anifeiliaid (ar wahân i gŵn Tywys a Chymorth) |
£1.00 |
| Baeddu cerbyd – uchafswm taliad |
£150 |
Bydd copi o’r hysbysiad hwn i’w adneuo yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 8UW o ddyddiad yr hysbysiad hwn rhwng 9.00yb a 5.00yp o ddydd Llun i ddydd Gwener ac am 14 diwrnod ar ôl hynny.
Os hoffech wrthwynebu’r tabl prisiau arfaethedig, rhaid i chi anfon y seiliau dros wrthwynebiad, yn ysgrifenedig, neu drwy e-bost licensing@blaenau-gwent.gov.uk ataf erbyn 9 Gorffennaf 2026 fan bellaf. Os nad oes gwrthwynebiadau neu os tynnir pob gwrthwynebiad yn ôl, bydd y tabl prisiau yn dod i rym ar 24 Awst 2026, neu ddyddiad tynnu’r gwrthwynebiad olaf yn ôl, pa un bynnag sydd hwysaf.
Bydd unrhyw wrthwynebiadau a wneir ac nad ydynt yn cael eu tynnu’n ôl yn cael eu hystyried gan y Cyngor a bydd dyddiad pellach yn cael ei bennu, heb fod yn hwyrach na 2 fis ar ôl 24 Awst 2026 y bydd y tabl prisiau yn dod i rym fel y penderfynwyd gan y Cyngor gydag addasiad neu hebddo.
DYDDIEDIG: 25ain dydd Fehefin 2026
Mark Thomas
Cyfarwyddwr Cymdogaethau a’r Amgylchedd
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Gwent Gazette directly at: