Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Statutory

Try our AI Explainer

This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.

Menai Bridge - Application for Marine License

LL59 5ESPublished 01/06/26
Daily Post • 

What is happening?

DEDDF Y MÔR A MYNEDIAD I’R ARFORDIR 2009
RHAN 4: TRWYDDEDU MOROL CAIS AM DRWYDDED FOROL AR GYFER ATGYWEIRIADAU I RWYDWAITH CARTHFFOS DDISGYRCHIANT SYDD EISOES YN BODOLI YM MHORTHAETHWY, YNYS MÔN

Hysbysir drwy hyn, yn unol â Rhan 4, Pennod 1, Adran 68, Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, fod Alun Griffiths Contractors Limited wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gweithredu ar ran yr Awdurdod Trwyddedu, am drwydded forol ar gyfer atgyweiriadau i rwydwaith carthffos disgyrchiant sydd eisoes yn bodoli ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar atgyweirio rhannau o garthffos rhwng sawl twll archwilio trwy osod leinin mewnol o fewn y pibellau sydd eisoes yn bodoli, gan adfer cyfanrwydd strwythurol heb ailosod pibellau llawn.

Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim, o’n cofrestr gyhoeddus ar-lein, https://cofrestrgyhoeddus. cyfoethnaturiol.cymru/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio’r cyfeirnod cais CML2614.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i: Cyfoeth Naturiol Cymru, Tîm Trwyddedu Morol, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NQ, neu e-bostiwch: trwyddedumorol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk o fewn 28 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad hwn, gan ddyfynnu’r cyfeirnod: CML2614.

Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo.

Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â’r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i’r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association