Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Statutory

Ivor Park - Definitive Map and Statement Modification Order

CF72 9BFPublished 04/08/25
Western Mail • 

What is happening?

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF DEDDF BYWYD GWYLLT A CHEFN GWLAD 1981 DATGANIAD A MAP ADOLYGIAD ARBENNIG HEN GYNGOR SIR MORGANNWG CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF (LLWYBR TROED 341 LLANTRISANT) GORCHYMYN ADDASU MAP DIFFINIOL 2025 

Bydd y Gorchymyn uchod gafodd ei wneud ar 17 Gorffennaf 2025, os caiff ei gadarnhau felly, yn peri diwygiad i'r map a'r datganiad diffiniol ar gyfer yr ardal yn sgil dileu'r llwybr troed sy'n cael eu disgrifio yn Atodlen yr Hysbysiad yma. 

Mae modd gweld copi o'r Gorchymyn a map y gorchymyn am ddim yn swyddfeydd y Cyngor yn 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd CF37 4TH ac yn Llyfrgell Pont-y-clun, Heol-y-felin, Pont-y-clun CF72 9BE, yn ystod oriau agor arferol. Mae modd derbyn copïau o'r Gorchymyn a'r map yna. 

Rhaid anfon unrhyw sylw neu wrthwynebiad yn ymwneud â'r Gorchymyn yn ysgrifenedig at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Gwasanaethau Democrataidd, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd CF37 4TH, neu drwy e-bost: PRoW@rctcbc.gov.uk erbyn 18 Medi 2025 fan bellaf, ac rydyn ni'n gofyn i ymgeiswyr nodi eu rheswm dros y rhain. 

Os na ddaw unrhyw sylw na Gorchymyn i law yn ymwneud â'r Gorchymyn, neu ag unrhyw ran ohono, o fewn y cyfnod yma, neu os bydd Gorchymyn neu sylw o'r fath yn cael ei dynnu'n ôl, gall y Cyngor, yn hytrach na chyflwyno'r Gorchymyn i Weinidogion Cymru, gadarnhau'r Gorchymyn drosto ei hun. Os bydd y Gorchymyn yn cael ei anfon at Weinidogion Cymru, bydd unrhyw sylwadau a gwrthwynebiadau sydd wedi'u gwneud, ac sydd heb eu tynnu yn ôl yn cael eu hanfon gyda'r gorchymyn. 

ATODLEN 
RHAN 1 
Diwygio'r Map Diffiniol Disgrifiad o'r Llwybr Troed neu'r Ffordd fydd yn cael ei Ddileu 

Llwybr Troed 341 Llantrisant 

1. Y rhan honno o Lwybr Troed 341 Llantrisant sydd wedi'i nodi â llinell ddu drom ar Fap y Gorchymyn ac sy’n dechrau ym Mhwynt A ger Afon Elái. Yna mae’r llwybr yn mynd i gyfeiriad cyffredinol y gogledd-ddwyrain am bellter o 15 metr hyd at Bwynt B, sydd oddeutu 130 metr i'r dwyrain-gogledd-ddwyrain o eiddo o'r enw Otters Brook Lodge, Parc Ivor, Brynsadler, Pont-y-clun, CF72 9BF. Hyd: 15 metr Lled: 2 fetr 

2. Y rhan honno o Lwybr Troed 341 Llantrisant, sydd wedi'i nodi â llinell ddu drom ar Fap y Gorchymyn ac sy’n dechrau ym Mhwynt C ger Afon Elái, Mae’r llwybr yn mynd i gyfeiriad cyffredinol y gogledd-orllewin am bellter o 7 metr hyd at Bwynt D, sydd oddeutu 155 metr i'r gogledd-ddwyrain o breswylfa o'r enw Otters Brook Lodge, Parc Ivor, Brynsadler, Pont-y-clun, CF72 9BF. Hyd: 7 metr Lled: 2 fetr 

RHAN II 
Diwygio'r Datganiad Diffiniol 
Amrywiad i'r manylion ynghylch y Llwybr neu'r Ffordd 

Llwybr 1.2 metr o led sy’n dechrau ar ben deheuol y Stryd Fawr ac yna’n mynd i gyfeiriad y dwyrain, y gogledd-ddwyrain a'r de-ddwyrain hyd at fynedfa Parc Ivor. Yna,llwybr 2 fetr o led sy’n mynd i gyfeiriad y dwyrain-gogledd-ddwyrain ar hyd llwybr sydd wedi'i dreulio gan ddilyn grisiau bas i lawr, ac yna i gyfeiriad y dwyrain dros bont droed ac i fyny cyfres o risiau. Mae'r llwybr yna'n parhau i gyfeiriad y dwyrain at bwynt sydd oddeutu 115 metr i'r dwyrain-gogledd-ddwyrain o eiddo o'r enw Otters Brook Lodge, Ivor Park, Brynsadler, Pont-y-clun, CF72 9BF. Mae'r llwybr yn parhau oddeutu 130 metr i'r dwyrain-gogledd-ddwyrain o Otters Brook Lodge ac yna’n parhau i gyfeiriad y gogledd am bellter oddeutu 40 metr ar hyd Afon Elái. Mae'r llwybr yn parhau oddeutu 155 metr i'r gogledd-ddwyrain o Otters Brook Lodge ac yn mynd i gyfeiriad y gogledd-orllewin, y gogledd-ddwyrain ac i'r dwyrain ar hyd glan yr afon ac yna dros Nant Dyfrgi dros bont droed cyn dod i ben ar ei chyffordd â Llwybr Troed 322 Llantrisant. 
Hyd: 769 metr 
Lled: 1.2 metr a 2 fetr 

Dyddiad: 4 Awst 2025 

Andrew Wilkins Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol 2 Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, CF37 4TH

RHONDDA CYNON TAF COUNTY BOROUGH COUNCIL 

WILDLIFE AND COUNTRYSIDE ACT 1981 FORMER GLAMORGAN COUNTY COUNCIL SPECIAL REVIEW MAP AND STATEMENT 

THE RHONDDA CYNON TAF COUNTY BOROUGH COUNCIL (FOOTPATH 341 LLANTRISANT) DEFINITIVE MAP MODIFICATION ORDER 2025 

The above Order made on 17 July 2025, if confirmed as made, will modify the definitive map and statement for the area by deleting from them the footpath described in the Schedule to this Notice. 

A copy of the Order and the map may be seen free of charge at the offices of the Council at 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd CF37 4TH and at Pontyclun Library, Heol-y-Felin, Pontyclun CF72 9BE during normal opening hours. Copies of the Order and map may be obtained there. 

Any representation or objection relating to the Order must be sent in writing to the Director of Legal and Democratic Services, 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd CF37 4TH or by e-mail to: PRoW@rctcbc.gov.uk to be received not later than 18 September 2025, and applicants are requested to state the grounds on which it is made. 

If no such representations or objections are duly made to the Order, or to any part of it, or if any so made are withdrawn, the Council, instead of submitting the Order to the Welsh Ministers may itself confirm the Order. If the Order is submitted to the Welsh Ministers, any representations or objections which have been duly made and not withdrawn will be sent with it. 

SCHEDULE 
PART I 
Modification of Definitive Map 
Description of Path or Way to be Deleted
 
Footpath 341 Llantrisant 
1. A part length of Footpath 341 Llantrisant shown by a bold continuous black line on the Order Map starting from Point A on the bank of the River Ely and running in a general north-easterly direction for a distance of 15 metres to point B approximately 130 metres east-north-east of the dwelling known as Otters Brook Lodge, Ivor Park, Brynsadler, Pontyclun CF72 9BF. Length: 15 metres Width: 2 metres 

2. A part length of Footpath 341 Llantrisant shown by a bold continuous black line on the Order Map starting from Point C on the bank of the River Ely and running in a general north-westerly direction for a distance of 7 metres to point D approximately 155 metres north-east of the dwelling known as Otters Brook Lodge, Ivor Park, Brynsadler, Pontyclun, CF72 9BF. 
Length: 7 metres 
Width: 2 metres 

PART II 
Modification of Definitive Statement 
Variation of Particulars of Path or Way 

Commences on the southern end of High Street, Brynsadler as a 1.2 metre path and proceeds eastwards, northeastwards and south eastwards direction to the entry of Ivor Park, then as a 2-metre wide path thereafter proceeding east-north-eastwards along a well-worn path descending a modest incline with shallow steps and then eastwards over a footbridge and up a flight of steps. The path then continues eastwards to a point approximately 115 metres east-north-east of the property known as Otters Brook Lodge, Ivor Park, Brynsadler, Pontyclun, CF72 9BF. The path resumes approximately 130 metres east-north-east of Otters Brook Lodge and heads northwards for approximately 40 metres along the bank of the River Ely. The path resumes approximately 155 metres north-east of Otters Brook Lodge and proceeds north-westwards, north-eastwards and eastwards along the river bank and then over Nant Dyfrgi via footbridge to its termination at its junction with Footpath 322 Llantrisant. 
Length: 769 metres 
Width: 1.2 and 2 metres 

Date: 4 August 2025 

Andrew Wilkins Director of Legal and Democratic Services 2 Llys Cadwyn, Taff Street, Pontypridd, CF37 4TH

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association