Upper Wye Catchment Restoration Project - Land drainage improvement works
What is happening?
Cyhoeddiad O Fwriad I Beidio  Pharatoi Datganiad Amgylcheddol
Rheoliad 12B Rheoliadau Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) SI1999/1783 fel y’i diwygiwyd
Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysu ei fod yn bwriadu gwneud gwaith gwella ar y draeniad ar un o lednentydd dienw Afon
Gwy ger Llangurig, Powys ar fferm Tŷ Mawr (Cyfeirnod Grid Cenedlaethol SN 87518 80536). Bydd y gwaith gwella arfaethedig yn cynnwys y canlynol: gosod cwlfert (pibell wal ddwbl 750mm) i ddargyfeirio’r cwrs dŵr o dan drac y fferm yn hytrach na’i fod yn llifo dros y trac, i leihau’r gwaddod sy’n cael ei gludo i afon Gwy.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru o’r farn nad yw’r gwaith gwella yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd ac nid yw’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ar ei gyfer. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â rheolwr y prosiect ar y manylion isod.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno sylwadau mewn perthynas ag effeithiau amgylcheddol tebygol y gwaith gwella arfaethedig wneud hynny, yn ysgrifenedig, a’u hanfon i’r cyfeiriad a nodir isod, o fewn 30 diwrnod i ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.
Henry Richards (Rheolwr y Prosiect), Cyfoeth Naturiol Cymru, Depo’r Trallwng, Uned 15B, Ystâd Ddiwydiannol Fferm Hafren, Y Trallwng SY21 7DF E-bost: Henry.Richards@naturalresourceswales.gov.uk
Announcement Of Intention Not To Prepare An Environmental Statement
Regulation 12B of the Environmental Impact Assessment (Land Drainage Improvement Works) SI1999/1783 as amended
Upper Wye Catchment Restoration Project
Natural Resources Wales gives notice that it proposes to carry out improvement works to the drainage on an unnamed tributary to the River Wye near Llangurig, Powys at Ty Mawr farm (NGR SN 87518 80536). The proposed improvement works will involve the following: installation of a culvert (750mm twin wall pipe) to divert the watercourse under the farm track rather than flowing over the track, to reduce sediment being transported into the river Wye.
Natural Resources Wales considers that the improvement works are not likely to have significant effects on the environment and does not intend to prepare an environmental statement in respect of them. For further information, please contact the project manager on the details below.
Any person wishing to make representations in relation to the likely environmental effects of the proposed improvement works should do so, in writing, to the address specified below, within 30 days of the date of publication of this notice.
Henry Richards (Project Manager), Natural Resources Wales, Welshpool Depot, Unit 15B, Severn Farm Industrial Estate, Welshpool SY21 7DF Email: Henry.Richards@naturalresourceswales.gov.uk
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Brecon & Radnor Express directly at: