Footpath No.39 Llangoed - Modification Order
What is happening?
Rhybudd Gorchymyn Diwygio Deddf Bywyd Gwyllt A Chefn Gwlad 1981
Map A Datganiad Swyddogol Cyngor Sir Ynys Môn
Gorchymyn Diwygio Cyngor Sir Ynys Môn / Isle Of Anglesey County Council (Ychwanegu Llwybr Troed Rhif 39 Llangoed) 2025
Os ydyw’r Gorchymyn uchod a wnaed ar y 4ydd Chwefror 2025 yn cael ei gadarnhau yn union fel y cafodd ei wneud, yna bydd yn diwygio’r map a’r datganiad swyddogol i’r ardal trwy:-
Ychwanegu:
Llwybr Troed Cyhoeddus rhif 39 Llangoed
Mae’r llwybr yn cychwyn o’r ffordd sirol ger eiddo o’r enw Cerrig ym Mhwynt A (CG: SH6209 7925) ac yn mynd yn ei flaen i’r gorllewin gogledd orllewin ar hyd trac am tua 43 metr gan yna barhau’n gyffredinol i’r de-orllewin am tua 24 metr.
Yna mae’r llwybr yn mynd yn ei flaen yn gyffredinol i’r gogledd orllewin ar hyd y trac am tua 46 metr i gyrraedd giât ger eiddo o’r enw Aberlleiniog ym Mhwynt B (CG: SH6199 7927).
Yna mae’r llwybr yn parhau i’r gogledd orllewin ar hyd y trac am tua 217 metr, gan fynd trwy giât ym Mhwynt C (CG: SH6183 7940).
Yna mae’r llwybr yn mynd yn ei flaen i’r de-orllewin am tua 6 metr gan fynd ymlaen trwy borth i derfynu ym Mhwynt D CG: SH6182 7940), ychydig o fewn tir Castell Aberlleiniog. Cyfanswm hyd y llwybr i’w ychwanegu yw 336 metr a lled y llwybr yw 2 fetr.
Mae’n bosib i’r cyhoedd archwilio copi o’r Gorchymyn a’r Map yn Swyddfa’r Cyngor, Llangefni drwy apwyntiad neu yn llyfrgell Biwmares. Neu fe ddanfonir copi caled o’r Gorchymyn a’r Map drwy’r post ar gais ac am ddim os cysylltwch â SiwanJones@ynysmon.llyw.cymru neu 01248 752591 (yn ystod oriau swyddfa arferol).
Os bydd sylwadau ar y Gorchymyn neu wrthwynebiad iddo, yna bydd raid gyrru’r rheini’n ysgrifenedig at Reolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, Swyddfa’r Sir, Llangefni, Ynys Môn, erbyn 21ain Mawrth 2025 a gofynnir i ymgeiswyr nodi beth yw’r rhesymau. Bydd y rhain ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd.
Oni fydd gwrthwynebiadau a sylwadau’n cael eu cyflwyno’n briodol ar y Gorchymyn neu ar unrhyw ran ohono neu os ydyw’r cyfryw bethau’n cael eu tynnu’n ôl yna bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn hytrach na chyflwyno’r Gorchymyn i Lywodraeth Cymru neu ran ohono os ydyw’r awdurdod trwy rybudd i Lywodraeth Cymru wedi penderfynu hynny dan Baragraff 5 Atodlen 15 - Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn cadarnhau’r Gorchymyn ei hun (neu’r rhan honno o’r Gorchymyn).
Os ydyw’r Gorchymyn yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn gyflawn neu’n rhannol yna bydd yr holl wrthwynebiadau neu’r holl sylwadau a gyflwynwyd yn briodol a heb eu tynnu’n ôl yn cael eu gyrru gyda’r Gorchymyn.
Notice Of Modification Order Wildlife And Countryside Act 1981
Isle Of Anglesey County Council Definitive Map And Statement
Cyngor Sir Ynys Môn/Isle Of Anglesey County Council (Addition Of Footpath No.39 Llangoed) Modification Order 2025
The above Order made on the 4th February 2025 if confirmed as made, will modify the definitive map and statement for the area by:-
Adding:
Public Footpath no.39 Llangoed
The path commences from the county road near the property of Cerrig at Point A (GR: SH6209 7925) and proceeds WNW along a track for approximately 43 metres to then proceed generally SW for approximately 24 metres.
The path then proceeds generally NW along the track for approximately 46 metres to reach a gate near the property of Aberlleiniog at Point B (GR: SH6199 7927).
The path then
continues NW along the track for approximately 217 metres, passing
through a gate at Point C (GR: SH6183 7940).
The path then proceeds SW for approximately 6 metres proceeding through a gateway to terminate at Point D (GR: SH6182 7940), just within the grounds of Castell Aberlleiniog (Castle). The total length of path to be added is 336 metres and the width of the path is 2 metres.
It is possible to inspect a copy of the Order and Order Map at the Council Offices, Llangefni by appointment or at Beaumaris library. Alternatively, hard copies of the Order and Order Map will be sent in the post free of charge on request if you contact SiwanJones@ynysmon.llyw.cymru or 01248 752591 (during normal office hours).
Any representation or objection relating to the Order must be sent in writing to the Legal Services Manager, Swyddfa’r Sir, Llangefni, Ynys Môn, not later than the 21st March 2025 and applicants are requested to state the grounds on which it is made. These will be available for public inspection.
If no representations or objections are duly made to the Order, or to any part of it, or if any so made are withdrawn, Isle of Anglesey County Council, instead of submitting the Order to the Welsh Government or part of it if the authority has by notice to the Welsh Government so elected under Paragraph 5 of Schedule 15 to the Wildlife and Countryside Act 1981 may itself confirm the Order (or that part of the Order).
If the Order is submitted to the Welsh Government in whole or in part any representations or objections which have been duly made and not withdrawn will be sent with it.
Dyddiedig 05/02/2025 Dated
..............................................
Mared W Yaxley
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol / Legal Services Manager
Cyngor Sir Ynys Môn / Isle Of Anglesey County Council
Swyddfeydd Y Cyngor / County Offices Llangefni, Ynys Mon LL77 7TW
Am ragor o wybodaeth ynghylch yr uchod cysylltwch, os gwelwch yn dda, dros y ffôn gyda’r Adain Gyfreithiol, Llangefni. Ffôn / Tel : 01248 752591 Rhif / Ref : HT-025035-SMJ
Croeso i chi ddelio gyda’r Cyngor yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Cewch yr un safon o wasanaeth yn y ddwy iaith.
For further information regarding the above please telephone the Legal Section, Llangefni. Ffôn / Tel : 01248 752591 Rhif / Ref : HT-025035-SMJ
You are welcome to deal with the Council in Welsh or English.
You will receive the same standard of service in both languages.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Bangor & Holyhead Mail directly at: