Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Hysbysiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio A Chyhoeddusrwydd Cyn Gwneud Cais Am Ganiatâd Seilwaith - Hysbysiad O Gais Arfaethedig Am Orchymyn Caniatâd Seilwaith
What is planned?
HYSBYSIAD YMGYNGHORI CYN YMGEISIO A CHYHOEDDUSRWYDD CYN GWNEUD CAIS AM GANIATÂD SEILWAITH
Deddf Seilwaith (Cymru) 2024
Rheoliadau Caniatâd Seilwaith (Gweithdrefn Cyn Ymgeisio a Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025
HYSBYSIAD O GAIS ARFAETHEDIG AM ORCHYMYN CANIATÂD SEILWAITH
Diben yr hysbysiad hwn: Mae'r hysbysiad hwn yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ac ymgyngoreion wneud sylwadau'n uniongyrchol i'r darpar ymgeisydd ar Brosiect Seilwaith Sylweddol (PSS) arfaethedig cyn cyflwyno cais i Weinidogion Cymru am ganiatâd seilwaith. Ni fydd unrhyw sylwadau a wneir mewn ymateb i'r hysbysiad hwn yn rhagfarnu gallu unrhyw berson i wneud sylwadau yn ddiweddarach yn y broses PSS. Gall sylwadau a dderbynnir gael eu crynhoi mewn Adroddiad Ymgynghori Cyn Ymgeisio a gallant gael eu gosod ar y ffeil gyhoeddus.
Darpar ymgeisydd: Last Energy UK Limited, 193-197 High Holborn, London, WC1V 7BD.
E-bost: contact@cleanenergyllynfi.wales.
Cyswllt yr ymgeisydd: Michael Jenner, ar ran Last Energy UK Limited.
Lleoliad y datblygiad arfaethedig: Mae'r datblygiad arfaethedig wedi'i leoli ar safle hen Orsaf Bwer Llynfi o fewn Cwm Llynfi, ger Coytrahen; dyffryn â'i gyfeiriad o'r gogledd i'r de rhwng Maesteg a Chyffordd 36 yr M4.
Crynodeb o'r prif gynigion: Mae Last Energy UK Limited yn bwriadu gwneud cais i Weinidogion Cymru am Orchymyn Caniatâd Seilwaith mewn perthynas â Phrosiect Seilwaith Sylweddol arfaethedig sy'n cynnwys adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw pedwar adweithydd niwclear micro a seilwaith cysylltiedig ar safle hen Orsaf Bwer Llynfi.
Caffael tir yn orfodol: Nid yw'r cynnig hwn yn cynnwys caffael tir yn orfodol.
Ble i archwilio'r dogfennau cyn ymgeisio: Gellir archwilio copïau o'r dogfennau cais drafft, cynlluniau, lluniadau a dogfennau ategol eraill ar-lein yn https://www.cleanenergyllynfi. wales.
Sut i ymateb: Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno gwneud sylwadau am y datblygiad arfaethedig ysgrifennu at y darpar ymgeisydd drwy e-bost at contact@cleanenergyllynfi.wales neu drwy'r post at Last Energy UK Limited, 193-197 High Holborn, London, WC1V 7BD.
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: Rhaid derbyn sylwadau erbyn 31 Gorffennaf 2026.
Llofnodwyd:
Enw: Michael Jenner, ar ran Last Energy UK Limited
Dyddiad: 12 Mehefin 2026
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Glamorgan Gazette directly at: