Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Planning

Try our AI Explainer

This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.

Flintshire - Planning Application & Open Space Disposal

CH7 4EWPublished 22/05/26
The Leader • 

What is planned?

DEDDF GYNLUNIO (ADEILADAU RHESDREDIG AC ARDALOEDD CADWRAETH) 1990

DEDDF YR AMGYLCHEDD HANESYDDOL (CYMRU) 2023

RHEOLIADAU ADEILADAU RHESDREDIG AC ARDALOEDD CADWRAETH (GWEITHDREFN A CHYFFRAD LLOG) (CYMRU) 2024

HYSBYSIR DRWY HYN fod y cais/caisiadau a ganlyn wedi’u cyflwyno i Gyngor Sir y Fflint yng nghyswllt y deddfwriaeth uchod.

COU/00223/26 – Trosi adeiladau presennol i lety gwyliau ar Fferm Pistyll, Nercwys, Yr Wyddgrug (Mae’r datblygiad hwn yn effeithio ar leoliad Adeilad Rhestredig).

Gall aelodau o’r cyhoedd archwilio copi o’r cais, cynlluniau a dogfennau eraill tan 12 Mehefin 2026 ar ein gwefan sef https://planning.agileapplications.co.uk/flintshire. Dylai unrhyw un sydd am roi sylwadau ynglyn â’r cais uchod wneud hynny’n ysgrifenedig, gan eu hanfon at y Prif Swyddog (Lle a Thwf), Cyngor Sir y Fflint, Ty Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF gan nodi’r cyfeirnod perthnasol erbyn y dyddiad uchod.

David Fitzsimon, Prif Swyddog (Lle a Thwf).

Dyddiedig 22 Mai 2026.

RHYBUDD O FWRIAD I WAREDU MAN AGORED CYHOEDDUS

Yn unol ag adran 123 (2A) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae Cyngor Sir y Fflint yn rhoi rhybudd ei fod yn bwriadu gwaredu, trwy dendr preifat, tua 0.92 acer o dir sy’n rhan agored ym Maes y Dre, Yr Wyddgrug, am werth y farchnad, gydag unrhyw ddefnydd arall yn y dyfodol i fod yn destun caniatâd cynllunio a allai fod yn ofynnol gan unrhyw berson. Mae copi o gynllun y safle ar gael yn Llyfrgell yr Wyddgrug, Ffordd yr Iarll, Yr Wyddgrug CH7 1AP yn ystod oriau agor arferol, ac mae ar gael i’w archwilio ar wefan y Cyngor (Adran Hysbysiadau Cyhoeddus): www.sirfflint.gov.uk. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiad, gan roi rhesymau, ynghylch y bwriad i waredu yn ysgrifenedig i’r Tîm Prisio ac Ystadau, Cyngor Sir y Fflint, Ty Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo CH5 3FF neu drwy e-bost at Gill.Fairhurst@flintshire.gov.uk neu drwy ffonio 01352 703119 a hynny erbyn 8ed o Fehefin 2026.

Dyddiedig 22 Mai 2026.

RHYBUDD O ORCHYMYN LLWYBR CYHOEDDUS

DEDDF CYNLUNIO GWLAD A THREF 1990, ADRAN 257

A PHARAGRAFF 1 ATODLEN 14

CYNGOR SIR Y FFLINT

(LLWYBR TROED CYHOEDDUS RHIF 3 YNG NGHYMUNED SEALAND)

GORCHYMYN GWYRO LLWYBR CYHOEDDUS 2026

Cafodd y Gorchymyn uchod ei wneud ar 12 Mai 2026.

Effaith y Gorchymyn yw gwyro’r rhan honno o Lwybr Cyhoeddus Rhif 3 yng Nghymuned Sealand yn Sir y Fflint, o fan yn NGR 33151 36959 i ddechrau i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain cyn troi i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i fan yn NGR 33194 36995, am bellter o oddeutu 590 metr fel y nodir gan y llinell doriad du bras rhwng pwyntiau A a B ar y Map Gorchymyn a chreu llwybr cyhoeddus amgen yn ei le at linell sy’n rhedeg o NGR33151 36959 i ddechrau i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain cyn troi’n raddol i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain am bellter o oddeutu 620 metr i gysylltu â gweddill Llwybr Troed Cyhoeddus Rhif 3 yn NGR 33194 36995, fel y nodir gan y llinell doriad du bras rhwng pwyntiau A a B ar y map Gorchymyn.

Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Map Gorchymyn yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor yn Swyddfa Bost Garden City Sealand, 35 Welsh Road, Garden City, Glannau Dyfrdwy, CH5 neu drwy apwyntiad yn Nhy Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF. Gellir gwneud cais am gopïau o’r Gorchymyn a’r map am ffi enwol, cysylltwch â publicrightsofway@flintshire.gov.uk.

Gallwch anfon neu ddanfon unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau i’r Gorchymyn yn ysgrifenedig i’r Prif Swyddog (Lle a Thwf) yn y cyfeiriad isod (gan ddyfynnu cyfeirnod RS/NJD/11/3/309) erbyn 21 Mehefin 2026 fan bellaf. Mae’n rhaid nodi pam y gwneir y sylwadau.

Os na dderbynnir unrhyw sylwadau na gwrthwynebiadau, neu os bydd rhai a wneir yn cael eu tynnu’n ôl, gall Cyngor Sir y Fflint ei hun gadarnhau’r gorchymyn fel gorchymyn diwthwynebiad. Os caiff y Gorchymyn ei anfon at Lywodraeth Cymru i’w gadarnhau, bydd unrhyw sylwadau neu wrthwynebiadau sydd heb gael eu tynnu’n ôl yn cael eu hanfon gyda’r Gorchymyn.

RS/NJD/11/3/309

David Fitzsimon, Prif Swyddog (Lle a Thwf) | Chief Officer (Place and Growth), Cyngor Sir y Fflint, Ty Dewi Sant, Parc St David’s, Ewlo CH5 3FF.

Dyddiedig 22 Mai 2026.

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact The Leader directly at:

classifiednwne@localiq.co.uk

01925 596444

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association