Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Flintshire - Multiple Planning Notices
What is planned?
DDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990
GORCHYMYN CYNLLUNIO GWLAD A THREF (GWEITHDREFN RHEOLI DATBLYGU CYFFREDINOL) (CYMRU) 2012 - HYSBYSIAD YN ÔL ERTHYGL 12
HYSBYSIR DRWY HYN fod y cais/caisiadau a ganlyn wedi’u cyflwyno i Gyngor Sir y Fflint yng nghyswllt y deddfwriaeth uchod.
FUL/001038/25 – Adeiladu 109 o dai fforddiadwy. Mynediad newydd i gerbydau a cherddwyr oddi ar Ffordd Pedrog yn cynnwys tirlunio man agored cyhoeddus gydag offer chwarae, gwaith ar y briffordd, gosod isadeiledd draenio dwr budr a dwr wyneb a gwaith ategol cysylltiedig ar dir yn Quarry Farm, Leadbrook Drive, Oakenholt.
DEDDF GYNLLUNIO (ADEILADU RHESTRIEDIG AC ARDALOEDD CADWRAETH) 1990
DEDDF YR AMGYLCHEDD HANESYDDOL (CYMRU) 2023
RHEOLIADAU ADEILADAU RHESTREDIG AC ARDALOEDD CADWRAETH (GWEITHDREFN A CHYFFRADAU LLOG) (CYMRU) 2024
HYSBYSIR DRWY HYN fod y cais/caisiadau a ganlyn wedi’u cyflwyno i Gyngor Sir y Fflint yng nghyswllt y deddfwriaeth uchod.
FUL/000271/26 – Newid Defnydd o faes parcio a storfa i gyfleuster gofal ceir gan gynnwys gosod canopi a thrawsnewid yr adeilad presennol yn swyddfa â chyfleusterau i staff ar dir ger The Bed Centre, Holywell Road, Y Fflint. (Mae’r datblygiad hwn yn effeithio ar leoliad Adeilad Rhestredig mewn Ardal Gadwraeth.)
FUL/000333/26 – Newid defnydd o Dafarn i Eiddo Domestig. Newidiadau mewnol i gael gwared ar y bar a’r toiledau presennol. Drysau a waliau mewnol newydd yn Colomendy Arms, Village Road, Cadole. (Mae’r datblygiad hwn yn effeithio ar gymeriad yr ardal Gadwraeth neu sut mae’n edrych).
FUL/000334/26 – Codi 4 annedd ar wahân ynghyd â lleoedd parcio a thirlunio cysylltiedig ar Lawnt Fowlio Treuddyn, Ffordd-y-Llan, Treuddyn. (Mae’r datblygiad hwn yn effeithio ar leoliad Adeilad Rhestredig mewn Ardal Gadwraeth.)
Gall aelodau o’r cyhoedd archwilio copi o’r cais, cynlluniau a dogfennau eraill tan 5 Mehefin 2026 ar ein gwefan sef https://planning.agileapplications.co.uk/flintshire. Dylai unrhyw un sydd am roi sylwadau ynglyn â’r cais uchod wneud hynny trwy’r wefan, trwy e-bost at planning.consultation@flintshire.gov.ukneu yn ysgrifenedig, gan eu hanfon at y Prif Swyddog (Lle a Thwf), Cyngor Sir y Fflint, Ty Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF gan nodi’r cyfeirnod perthnasol erbyn y dyddiad uchod.
David Fitzsimon, Prif Swyddog (Lle a Thwf) ar ran Cyngor Sir y Fflint
Dyddiedig 15 Mai 2026
GORCHYMYN CYNLLUNIO GWLAD A THREF (GWEITHDREFN RHEOLI DATBLYGU) (CYMRU) 2012
RHEOLIADAU CYNLLUNIO GWLAD A THREF (ASESIAD O’R EFFAITH AMGYLCHEDDOL) 2017
HYSBYSIAD O DAN ERTHYGL 12(3) CAIS AR GYFER CANIATÂD CYNLLUNIO
Datblygiad arfaethedig ar dir i’r Dwyrain o Tata Steel, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, Shotton a rhoddir rhybudd drwy hyn bod Knauf Insulation Limited yn gwneud cais i Gyngor Sir y Fflint am ganiatâd cynllunio i godi ffatri gweithgynhyrchu deunydd inswleiddio gwlân mwynau creigiau (B2), gan gynnwys storfa (B8), swyddfa (B1), adeilad ar gyfer gwarchodwyr, mynediad i gerbydau, tirlunio, parcio ac isadeiledd cysylltiedig, gwaith allanol, alomycher, achedwr ac adnewyddu adeiladau presennol.
Cafodd y cais ei wneud ar 22/04/26.
Mae Datganiad Amgylcheddol yn gysylltiedig â’r cais.
Gallwch weld copi o’r cais, dogfennau ategol, a’r datganiad amgylcheddol yn rhad ac am ddim ar-lein yn https://planning.agileapplications.co.uk/flintshire gan ddefnyddio cyfeirnod y cais: FUL/000343/26. Gallwch hefyd ei weld yn Nhy Dewi Sant, Ewlo, Parc Dewi Sant Ewlo CH5 3FF ar bob adeg resymol, drwy wneud apwyntiad ymlaen llaw wedi’i drefnu drwy e-bost neu dros y ffôn – planningadmin@flintshire.gov.uk 01352 703331 tan 14 Mehefin 2026.
Gall aelodau’r cyhoedd gael copïau o’r Datganiad Amgylcheddol gan Alec Drake Alec.Drake@wsp.com am gost o £1500.00 cyn belled â bod stoc ar gael.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau am y cais hwn wneud hynny ar-lein yn https://planning.agileapplications.co.uk/flintshire neu ysgrifennu at y Cyngor – Ty Dewi Sant, Ewlo, Parc Dewi Sant Ewlo, CH5 3FF a dyfynnu cyfeirnod y cais erbyn 14 Mehefin 2026
David Fitzsimon, Prif Swyddog (Lle a Thwf) ar ran Cyngor Sir y Fflint
Dyddiedig 15 Mai 2026
RHYBUDD O FWRIAD I WAREDU MAN AGORED CYHOEDDUS
Yn unol ag adran 123 (2A) Deddf Llywodraeth Leol 1972, mae Cyngor Sir y Fflint yn rhoi rhybudd ei fod yn bwriadu gwaredu, trwy dendr preifat, tua 0.92 acer o dir sy’n rhan agored ym Maes y Dre, Yr Wyddgrug, am werth y farchnad, gydag unrhyw ddefnydd arall yn y dyfodol i fod yn destun caniatâd cynllunio a allai fod yn ofynnol gan unrhyw brynwr. Mae copi o gynllun y safle ar gael yn Llyfrgell yr Wyddgrug, Ffordd yr Iarll, yr Wyddgrug CH7 1AP yn ystod oriau agor arferol, ac mae ar gael i’w archwilio ar wefan y Cyngor (Adran Hysbysiadau Cyhoeddus): www.sirfflint.gov.uk. Dylid cyflwyno unrhyw wrthwynebiad, gan roi rhesymau, ynghylch y bwriad i waredu yn ysgrifenedig i’r Tîm Prisio ac Ystadau, Cyngor Sir y Fflint, Ty Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo CH5 3FF neu drwy e-bost at Gill.Fairhurst@flintshire.gov.uk neu drwy ffonio 01352 703119 a hynny erbyn 8ed o Mehefin 2026.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact The Leader directly at: