Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Planning

Rhondda Cynon Taf - Multiple Planning Applications

CF40 2XYPublished 08/05/25
Gwent Gazette • 

What is planned?

HYSBYSIAD STATUDOL

I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 0300 0604400 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru

DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990
GORCHYMYN CAU PRIFFYRDD (Y FFORDD I HEN SWYDDFEYDD CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF, CWMCLYDACH, TONYPANDY) 202-

MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 247 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) i awdurdodi cau’r darnau o briffordd a ddisgrifir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod angen cau’r briffordd. Nid awdurdodir cau’r briffordd ond er mwyn gwneud y datblygiad yn unol â’r caniatâd cynllunio a roddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar 12 Mawrth 2025 o dan y cyfeirnod 24/1297/FUL a ddisgrifir yn Atodlen 2 i’r Hysbysiad hwn.

Bydd Gorchymyn Cau Priffyrdd (Y Ffordd i hen Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cwmclydach, Tonypandy) 202- (“y Gorchymyn”), os caiff ei wneud, yn peidio â chael effaith os daw’r caniatâd cynllunio mewn cysylltiad â’r datblygiad i ben neu os caiff ei ddirymu.

Yn ystod yr 28 o ddiwrnodau o 8 Mai 2025 ymlaen, gellir edrych ar gopïau o’r Gorchymyn drafft a’r plan a adneuwyd yn rhad ac am ddim yn Llyfrgell Tonypandy, De Winton Street, Tonypandy, CF40 2QZ yn ystod oriau agor arferol, neu gellir eu cael yn rhad ac am ddim o’r cyfeiriad isod gan ddyfynnu’r cyfeirnod qA2307720.

Rhaid anfon unrhyw wrthwynebiadau yn ysgrifenedig, gan nodi ar ba sail y’u gwneir, i: Y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu drwy e-bost i Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru erbyn 5 Mehefin 2025.

Os ydych yn dymuno gwrthwynebu, cefnogi neu gyflwyno sylwadau, efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ymgynghori â phersonau a sefydliadau y tu allan i Lywodraeth Cymru. Fel rhan o’r broses ymgynghori, bydd yr wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi a’ch data personol yn cael eu trosglwyddo i’r ceisydd/datblygwr ac, os oes angen, i’r awdurdod priffyrdd lleol i’w galluogi hwy i ymateb i chi. Fodd bynnag, ni fyddwn yn datgelu eich manylion personol ond pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn ymdrin â’r materion a godwyd. Pan na fo gwrthwynebiadau yn gallu cael eu datrys a phan fo’r Gorchymyn yn dod yn destun Ymchwiliad Cyhoeddus (“YC”), caiff pob gohebiaeth ei chopïo i Arolygydd yr YC ac fe’i cedwir yn y Llyfrgell YC lle y bydd ar gael i’r cyhoedd.

Os nad ydych yn dymuno i ddata personol gael eu hanfon ymlaen at drydydd parti, dylech nodi pam pan fyddwch yn cyflwyno eich gohebiaeth a bydd Gweinidogion Cymru yn copïo’r sylwadau i’r trydydd parti priodol gyda’r enw a’r cyfeiriad wedi eu dileu. Os bydd YC yn cael ei gynnal, bydd yr Arolygydd yn gweld y sylwadau ond efallai y bydd yn rhoi llai o sylw iddynt o ganlyniad i hyn.

Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-cau

J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru

ATODLEN 1
(Bras amcan yw pob mesuriad)
Y darn o briffordd sydd i’w gau
Darn hir afreolaidd ei siâp o briffordd, 250 o fetrau i’r gorllewin o’i chyffordd â Pharc Diwydiannol Cambrian, Cwmclydach, Tonypandy, sy’n mesur 2280 o fetrau sgwâr ac sydd wedi ei farcio â llinellau sebra ar y plan a adneuwyd.

ATODLEN 2
Y Datblygiad
Adeiladu ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol (3-19 oed) a strwythurau/gwaith atodol ar safle hen Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yng Nghwmclydach, Tonypandy.

STATUTORY NOTICE

For a large print copy of this Notice, contact 0300 0604400 or email Transportordersbranch@gov.wales

TOWN AND COUNTRY PLANNING ACT 1990
THE STOPPING UP OF HIGHWAYS (ROAD TO THE FORMER RHONDDA CYNON TAF COUNTY BOROUGH COUNCIL OFFICES, CLYDACH VALE, TONYPANDY) ORDER 202-

THE WELSH MINISTERS propose to make an Order under section 247 of the Town and Country Planning Act 1990 (“the 1990 Act”) to authorise the stopping up of the lengths of highway described in Schedule 1 to this Notice. The Welsh Ministers are satisfied that stopping up is necessary, and it will be authorised only in order to enable the development to be carried out in accordance with planning permission granted under Part 3 of the 1990 Act by Rhondda Cynon Taf County Borough Council on 12 March 2025 with reference 24/1297/FUL described in Schedule 2 to this Notice.

The Stopping Up of Highways (Road to the former Rhondda Cynon Taf County Borough Council Offices, Clydach Vale, Tonypandy) Order 202- (“the Order”), if made, will cease to have effect if planning permission in respect of the development expires or is revoked.

During 28 days from 8 May 2025, copies of the draft Order and the deposited plan may be inspected free of charge during normal opening hours at Tonypandy Library, De Winton Street, Tonypandy, CF40 2QZ or may be obtained free of charge from the address below quoting reference qA2307720.

Objections, specifying the grounds on which they are made, must be sent in writing to Orders Branch, Transport, Welsh Government, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ or by email to TransportOrdersBranch@gov.wales by 5 June 2025.

Should you wish to object, support or make representations, the Welsh Government may need to consult with persons and organisations outside the Welsh Government.

As part of the consultation process, the information you have provided and your personal data will be passed to the applicant/developer and, if necessary, to the local highway authority to enable them to respond to you. We will, however, only disclose your personal details where it is necessary to do so to address the issues raised. Where objections cannot be resolved and the Order becomes subject to a Public Inquiry (“PI”), all correspondence is copied to the Inspector of the PI and is available in the PI library when it becomes publicly available.

If you do not wish personal data to be forwarded to third parties, you should state why when submitting your correspondence and the Welsh Ministers will copy the representations to the appropriate third parties with the name and address removed and if there is to be a PI, the representations will be seen by the Inspector who may give them less weight as a result.

A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/stopping-orders

J SADDLER, Transport, Welsh Government

SCHEDULE 1
(All measurements are approximate)
Length of highway to be stopped up

A long irregular shaped length of highway, 250 metres to the west of its junction with Cambrian Industrial Park, Clydach Vale, Tonypandy measuring 2280 metres squared and marked with zebra hatching on the deposited plan.

SCHEDULE 2
The Development
The construction of an Additional Learning Needs school (3-19 years) and ancillary structures / works on the site of the former Rhondda Cynon Taf County Borough Council Offices at Clydach Vale, Tonypandy.

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Gwent Gazette directly at:

publicnoticesteam@reachplc.com

01227 907972

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 40 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association