Chertsey Road - Planning Application For Development
What is planned?
Mona Offshore Wind Ltd: Cyfeirnod Yr Arolygiaeth Gynllunio: En010137
Hysbysiad Ynghylch Newidiadau Arfaethedig I’r Cais Am Orchymyn Cydsyniad Datblygu
Cafodd cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu ei gyflwyno gan Mona Offshore Wind Ltd (yr “Ymgeisydd”) o Adeilad B, Chertsey Road, Sunbury on Thames, UK, TW16 7BP o dan Ddeddf Cynllunio 2008 i’r Ysgrifennydd Gwladol, D/O yr Arolygiaeth Gynllunio ar 22/02/2024, a chafodd ei dderbyn i’w archwilio ar 21/03/2024 (“y Cais”).
Hysbysir drwy hyn bod yr Ymgeisydd wedi gwneud cais i ddiwygio’r Cais ar 1 Tachwedd 2024 (“y Cais am Newid”). Bydd y cyfnod sylwadau ar gyfer y Cais am Newid yn rhedeg tan 17:00 ar 3 Rhagfyr 2024. Mae’r hysbysiad hwn yn egluro’r Cais am Newid a sut gallwch chi ymateb.
Crynodeb o’r Cais
Mae’n Gais am gydsyniad datblygu i adeiladu, gweithredu a datgomisiynu Fferm Wynt Alltraeth arfaethedig Mona (y “Prosiect”) a seilwaith cysylltiedig ar y tir ac ar y môr. Mae’r Prosiect wedi’i leoli ym Môr Iwerddon oddi ar arfordir gogledd Cymru. Ar ei bwyntiau agosaf at y lan, mae ardal yr aráe yn 28.8 km o arfordir gogledd Cymru, 46.9 km o arfordir gogledd-orllewin Lloegr, a 46.6 km o Ynys Manaw. Bydd coridor y ceblau allforio ar y môr tua 46 km o hyd a bydd y coridor ceblau allforio ar y tir (gan gynnwys coridor ceblau 400kV) tua 16 km o hyd.
Bydd y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu arfaethedig, ymysg pethau eraill, yn awdurdodi’r canlynol:
a) Adeiladu a gweithredu hyd at 96 generadur tyrbinau gwynt ar y môr a’u sylfeini;
b) Adeiladu hyd at bedwar platfform is-orsaf ar y môr (OSP) a’u sylfeini;
c) Adeiladu rhwydwaith o geblau rhyng-aráe o dan y môr sy’n cysylltu’r generaduron tyrbinau gwynt a rhwydwaith o geblau rhyng-gysylltu sy’n cysylltu’r platfformau is-orsaf ar y môr;
d) Gosod hyd at bedair cylched ceblau allforio o dan y môr i drosglwyddo’r trydan a gynhyrchir gan y generaduron tyrbinau gwynt i’r lan. Mae coridor ceblau allforio ar y môr y Prosiect yn ymestyn tua’r de-ddwyrain o ardal yr aráe i’r lanfa arfaethedig yn Llanddulas yng Nghonwy;
e) Adeiladu hyd at bedwar porth cysylltu trosiannol ar y lanfa sy’n cysylltu’r ceblau ar y môr â’r ceblau ar y tir;
f) Gosod hyd at bedair cylched ceblau allforio tanddaearol ar y tir sy’n cysylltu o’r pyrth cysylltu trosiannol ar y lanfa i is-orsaf ar y tir y prosiect;
g) Adeiladu a gweithredu is-orsaf newydd ar y tir ar gyfer y prosiect i’r de o Barc Busnes Llanelwy a Ffordd Glascoed yn Sir Ddinbych;
h) Gosod hyd at ddwy gylched ceblau allforio tanddaearol ar y tir sy’n cysylltu’r is-orsaf arfaethedig ar y tir ag is-orsaf y National Grid ym Modelwyddan er mwyn gallu trosglwyddo’r pŵer i’r National Grid; a
i) Gwaith i gysylltu’r Prosiect ag is-orsaf National Grid ym Modelwyddan yn Sir Ddinbych.
Byddai’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu hefyd yn awdurdodi caffael tir yn orfodol, buddiannau mewn tir a hawliau dros dir, a’r pwerau i ddefnyddio tir yn barhaol a dros dro ar gyfer adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw a datgomisiynu fferm wynt ar y môr.
Crynodeb o’r Cais am Newid
Mae’r Ymgeisydd wedi parhau i fireinio ei gynigion drwy waith dylunio manwl, cynnar a thrafodaethau â rhanddeiliaid. Mae hyn wedi arwain at yr angen am newidiadau, ac mae rhai ohonynt yn golygu bod angen cynnwys tir ychwanegol o fewn terfynau’r Gorchymyn arfaethedig, i’w ddefnyddio dros dro yn ystod y gwaith adeiladu yn unig. Mae’r holl newidiadau arfaethedig wedi’u lleoli o amgylch safle’r is-orsaf arfaethedig ar y tir. Dyma grynodeb o’r newidiadau a’r disgrifiadau o’r tir y bydd caffael gorfodol yn effeithio arno o ganlyniad i’r Cais am Newid :
Newid 1(a a b): Diwygio terfynau’r Gorchymyn arfaethedig i gynnwys llwybr mynediad presennol ar gyfer mynediad dros dro ar gyfer y gwaith adeiladu yn ystod y gwaith o baratoi’r safle ar y tir, a darn o dir i’r gorllewin o’r is-orsaf ar y tir ar gyfer mynediad dros dro ar gyfer y gwaith adeiladu yn ystod gwaith paratoi’r safle ar y tir ac adeiladu’r is-orsaf ar y tir a’r gwaith o’i hamgylch. Mae hyn yn golygu cynnwys dau blot newydd o dir (plotiau 11-197a ac 11-197b) a fyddai’n ddarostyngedig i bwerau meddiannu dros dro yn unig.
Newid 2(a a b): Diwygio a lledu ffordd fynediad ar gyfer gwaith adeiladu’r is-orsaf ar y tir i gynorthwyo symudiadau Llwythi Anwahanadwy Anghyffredin, gan gynnwys newid terfynau’r Gorchymyn arfaethedig. Mae hyn yn golygu cynnwys pedwar plot newydd o dir (plotiau 11-229a, 11-230a, 11-233a ac 11-234a) a fyddai’n ddarostyngedig i bwerau meddiannu dros dro yn unig. Mae hefyd angen darn bach ychwanegol o dir ar gyfer ffordd fynediad ar gyfer gwaith adeiladu’r is-orsaf ar y tir sydd o fewn terfynau presennol y Gorchymyn ym mhlot 11-220.
Newid 3: Diwygio terfynau’r Gorchymyn arfaethedig i gynnwys tir ychwanegol wrth ymyl ymagoriad mynediad adeiladu’r is-orsaf ar y tir i ddarparu ar gyfer basn arafu draenio’r safle adeiladu dros dro. Mae hyn yn golygu cynnwys dau blot newydd o dir (plotiau 11-233b ac 11-234b) a fyddai’n ddarostyngedig i bwerau meddiannu dros dro yn unig.
Newid 4: Diwygio ac ehangu terfynau’r Gorchymyn arfaethedig i gynnwys tir sydd ei angen i ddarparu ar gyfer ardal o lawr caled yn ystod y cyfnod adeiladu er mwyn gallu sefydlu’r ffordd fynediad barhaol. Mae hyn yn golygu cynnwys un plot newydd o dir (plot 11-221a) a fyddai’n ddarostyngedig i bwerau meddiannu dros dro yn unig.
Mae’r diwygiadau arfaethedig hyn wedi cael eu hymgorffori yng Nghynllun Tir y Cais am Newid a Llyfr Gorchwyl y Cais am Newid, ac maent i’w gweld ynddynt. Mae Datganiad o Resymau’r Cais am Newid a Datganiad Cyllido’r Cais am Newid hefyd wedi cael eu cyflwyno i gefnogi’r Cais am Newid.
Gweld y Cais am Newid
Mae Adroddiad y Cais am Newid, Cynllun Gwaith y Cais am Newid, Cynllun Tir y Cais am Newid a Llyfr Gorchwyl y Cais am Newid a rhagor o wybodaeth am y Cais am Newid ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho yn rhad ac am ddim oddi ar wefan prosiect Mona https://www.morganandmona.com/cym/
Bydd dogfennau’r Cais am Newid ar gael i’w gweld ar-lein tan o leiaf 3 Rhagfyr 2024.
Gallwch chi hefyd gael gafael ar y dogfennau yn rhad ac am ddim yn y lleoliadau isod, tan o leiaf 3 Rhagfyr 2024.
Cysylltwch â’r lleoliadau yn uniongyrchol i gadarnhau beth yw eu horiau agor ac unrhyw ofynion o ran archebu neu gofrestru a allai fod eu hangen i gael gafael ar y dogfennau’n ddigidol ar y cyfrifiaduron sydd ar gael yn y lleoliadau priodol.
Lleoliad | Amseroedd Agor | Rhif cyswllt |
---|---|---|
Llyfrgell Llandudno, Stryd Mostyn, Llandudno LL30 2RP | Llun-Mercher a Gwener: 9-5.30pm, Iau: 10-7pm, Sadwrn: 9:30-3pm |
01492 574010 |
Llyfrgell, Amgueddfa a Chanolfan Gelfyddydau y Rhyl, Stryd yr Eglwys, y Rhyl LL18 3AA |
Llun: 9:30-6pm, Mawrth-Gwener: 9:30-5pm, Sadwrn: 09:30-12.30pm |
01745 353814 |
Mae copi o adroddiad y Cais am Newid a’r gyfres lawn o ddogfennau ategol ar gael ar ffurf copi caled ar gais am gost o £250. Ar gyfer unrhyw geisiadau am ddogfennau penodol, cysylltwch â’r Ymgeisydd (gan ddefnyddio manylion cyswllt tîm y Prosiect uchod) a fydd yn darparu’r gost. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Cais am Newid, neu os ydych chi’n dymuno cael rhagor o wybodaeth am y Cais am Newid, ewch i wefan prosiect Mona yma: https://www.morganandmona.com/cym/ neu cysylltwch â thîm y Prosiect ar 0800 860 6263 neu e-bostio info@monaoffshorewind.com.
Sut mae ymateb i’r Cais am Newid
Sylwch fod rhaid i’r holl sylwadau ddod i law erbyn 17:00 ar 3 Rhagfyr 2024.
Gellir cyflwyno adborth drwy anfon e-bost: info@monaoffshorewind.com neu yn ysgrifenedig (RHADBOST MONA).
Bydd unrhyw sylwadau neu ymatebion yn cael eu rhannu gyda’r Arolygiaeth Gynllunio. Sylwch y bydd yr holl ymatebion a gyflwynir yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio a byddant yn rhwym wrth ei pholisi preifatrwydd, sydd ar gael ar-lein yma: https://www.gov.uk/government/publications/planning-inspectorate-privacy-notices
Mona Offshore Wind Ltd: Planning Inspectorate Reference: En010137
Notice Of Proposed Changes To The Development Consent Order Application
An application for a Development Consent Order (“DCO”) was submitted by Mona Offshore Wind Ltd (the “Applicant”) of Building B, Chertsey Road, Sunbury on Thames, UK, TW16 7BP under the Planning Act 2008 to the Secretary of State, C/O the Planning Inspectorate on 22/02/2024 and was accepted for examination on 21/03/2024 (“the Application”).
Notice is hereby given that the Applicant made a request to amend the Application on 1 November 2024 (“the Change Request”). The representation period for the Change Request will run until 17:00 on 3 December 2024. This notice explains the Change Request and how you can respond.
Summary of the Application
The Application is for development consent to construct, operate and decommission the proposed Mona Offshore Wind Farm (the Project) and associated offshore and onshore infrastructure. The Project is located off the coast of North Wales in the Irish Sea. At the closest points the array area is 28.8 km from the north coast of Wales, 46.9 km from the northwest coast of England, and 46.6 km from the Isle of Man. The offshore export cable corridor will be approximately 46 km in length and the onshore export cable corridor (including 400 kV cable corridor) will be approximately 16 km in length.
The proposed DCO will, among other things, authorise :
a) The construction and operation of up to 96 offshore wind turbine generators and their foundations;
b) The construction of up to four offshore substation platforms (OSP) and their foundations;
c) The construction of a network of subsea inter-array cables connecting the wind turbine generators and a network of interconnector cables connecting the OSPs;
d) The installation of up to four subsea export cable circuits to transmit the electricity generated by the wind turbine generators to shore. The Project’s offshore export cable corridor extends south-eastwards from the array area to the proposed landfall at Llanddulas in Conwy;
e) The construction of up to four transition joint bays at landfall connecting the offshore cables to the onshore cables;
f) The installation of up to four underground onshore export cable circuits connecting from the transition joint bays at landfall to the project onshore substation;
g) The construction and operation of a new project onshore substation to the south of St Asaph Business Park and Glascoed Road in Denbighshire;
h) The installation of up to two underground onshore export cable circuits connecting the proposed onshore substation to the National Grid Bodelwyddan substation, to allow the power to be transferred to the National Grid; and
i) Works to connect the Project to the National Grid Bodelwyddan substation in Denbighshire.
The DCO would also authorise the compulsory acquisition of land, interests in land and rights over land, and the powers to use land permanently and temporarily for the construction, operation, maintenance and decommissioning of an offshore wind farm.
Summary of the Change Request
The Applicant has continued to refine its proposals through early detailed design and engagement with stakeholders. This has resulted in the need for changes, some of which require additional land to be included within the proposed Order limits which will be for temporary use during construction only. All the proposed changes are located around the site of the proposed onshore substation. A summary of the changes and descriptions of the areas of land affected by compulsory acquisition as a result of the Change Request are :
Change 1(a and b): The amendment of the proposed Order limits to include an existing access track for temporary construction access during onshore site preparation works and a parcel of land to the west of the onshore substation for temporary construction access during onshore site preparation works and construction of the onshore substation and surrounding works. This involves the inclusion of two new plots of land (plots 11-197a and 11-197b) which would be subject to powers of temporary possession only.
Change 2(a and b): The amendment and widening of the onshore substation construction access road to aid Abnormal Indivisible Load (AIL) movements, including an amendment to the proposed Order limits. This involves the inclusion of four new plots of land (plots 11-229a, 11-230a, 11-233a and11-234a) which would be subject to powers of temporary possession only. It also requires an additional small area of land for the onshore substation construction access road which is located within the existing Order limits within plot 11-220.
Change 3: The amendment of the proposed Order limits to include additional land adjacent to the onshore substation construction access bellmouth to accommodate a temporary construction drainage attenuation basin. This involves the inclusion of two new plots of land (plots 11-233b and 11-234b) which would be subject to powers of temporary possession only.
Change 4: The amendment and widening of the proposed Order limits to include land needed to accommodate an area of hardstanding during the construction period to allow establishment of the permanent access road. This involves the inclusion of one new plot of land (plot 11-221a) which would be subject to powers of temporary possession only.
These proposed amendments have been incorporated into and are shown on Change Request Land Plan and the Change Request Book of Reference. The Change Request Statement of Reasons and Change Request Funding Statement have also been submitted in support of the Change Request.
Viewing the Change Request application
The Change Request Report, Change Request Works Plan, Change Request Land Plan and the Change Request Book of Reference and further information relating to the Change Request can be viewed and downloaded free of charge from the Mona project website
https://www.morganandmona.com/en/
The Change Request documents will be available to view online until at least 3 December 2024.
You may also access the documents free-of-charge at the below locations, until at least 3 December 2024. Please check directly with the facilities to confirm their opening hours, as well as any bookings or registrations that might be required to access the documents digitally through the computers available at the respective locations.
Venue | Opening Times | Contact Number |
---|---|---|
Llandudno Library, Mostyn Street, Llandudno LL30 2RP | Mon-Weds and Fri: 9-5:30pm, Thurs: 10-7pm, Sat: 9:30-3pm |
01492 574010 |
Rhyl Library, Museum and Arts Centre Church Street, Rhyl LL18 3AA | Mon: 9:30-6pm, Tues-Fri: 9:30-5pm, Sat: 9:30-12.30pm | 01745 353814 |
A copy of the Change Request report and full suite of supporting documents can be made available in hard copy format on request at a cost of £250. For any bespoke document requests please contact the Applicant (using the Project team contact details above) who will provide the cost. If you have any questions about the Change Request or want to find out more about the Change Request, you can visit the Mona project website here: https://www.morganandmona.com/en/ or contact the Project team at 0800 860 6263 or email info@monaoffshorewind.com.
How to respond to the Change Request
Please note that all representations must be received by 17:00 on 3 December 2024.
Feedback can be submitted in via email: info@monaoffshorewind.com or in writing (FREEPOST MONA).
Any comments or responses will be shared with the Planning Inspectorate. Please note that all responses submitted will be published on the Planning Inspectorate’s website and will be subject to their privacy policy, found online here: https://www.gov.uk/government/publications/planning-inspectorate-privacy-notices
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: