City Of Bangor - Proposed Deregistration Of Common Land
What is planned?
Section 16 of the Commons Act 2006
Proposed deregistration of common land at:
MYNYDD LLANDEGAI COMMON (CL 106)
Community of Mynydd Llandegai City of Bangor
1. Notice is hereby given that Welsh Slate Limited has applied to the Welsh Ministers under section 16 of the Commons Act 2006 for land forming part of the abovementioned registered common land (the “release land”) to cease to be so registered.
2. The purpose of this application is to enable planning permission (reference:
C22/0336/16/MW) for a small extension to Penrhyn Quarry in Bangor to be implemented as this quarry extension would extend into Mynydd Llandegai Common.
3. It is proposed that land (the “replacement land”) be registered as common land in place of the release land.
4. The release land is described in the First Schedule to this notice, and the replacement land is described in the Second Schedule. On the plan referred to in paragraph 5 below, the release land is shown edged red, the replacement land is shown edged light green, and the boundary of the common is shown edged in dark green.
5. A copy of the application form and plan showing the location of the lands can be inspected at Gwynedd Council, Cyngor Gwynedd Headquarters, Castle Street, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SE between the hours of 9am and 4pm weekdays (not public holidays) and Dyffryn Ogwen Community Library, Ffordd Coetmor, Bethesda, LL57 3DP on Monday between 2pm - 6pm, Tuesday 10am - 12pm, Thursday 10am - 12pm and 2pm - 5pm, Friday 2pm - 5pm and Saturday 10am - 12pm (the library is closed on Wednesday and Sunday) until the 1st day of November. It may also be viewed on-line via https://www.welshslate.com/news/common-land/. A copy of the application may be obtained by writing to Mr S Denny, Breedon Trading Limited, Pinnacle House, Breedon Quarry, Breedon On The Hill, Derby, England, DE73 8AP.
6. Any objections or representations in respect of the proposed deregistration and exchange should be sent in writing ON or BEFORE that date to: Planning and Environment Decisions Wales (PEDW), Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ, or PEDW.Casework@gov.wales.
7. Letters sent to Planning and Environment Decisions Wales (PEDW) cannot be treated as confidential. They will be copied to the applicant and possibly to other interested parties.
FIRST SCHEDULE
(The release land)
The release land comprises approximately 58,520 m² of land which forms part of an area of common land known as Mynydd Llandegai Common (CL 106). The release land is located in an area that lies within the south western edge of Penrhyn Quarry, where there is an existing planning permission to extract slate, but only part of the area has currently been subject to excavation and is edged red on the plan referred to at paragraph 5 above.
SECOND SCHEDULE
(The replacement land)
The replacement land compromises approximately 58,652m² of mainly rough grazing land with areas of shrub and scattered small trees on the northern part.
This area lies approximately 1.1km to the north east of the land to be released and is edged light green on the plan referred to in paragraph 5 above.
Mr S Denny Breedon Trading Limited Pinnacle House Breedon Quarry, Breedon On The Hill, Derby, England, DE73 8AP
2 October 2024
Adran 16 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006
Cynnig i ddatgofrestru tir comin yn y lleoliad canlynol:
TIR COMIN MYNYDD LLANDYGÁI (CL 106)
Cymuned Mynydd Llandygái Dinas Bangor
1. Hysbysir drwy hyn bod Welsh Slate Limited wedi cyflwyno cais i Weinidogion Cymru dan adran 16 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 i ddadgofrestru tir sy’n rhan o’r tir comin cofrestredig a nodir uchod (y “tir a ryddheir”).
2. Cyflwynir y cais hwn er mwyn galluogi caniatâd cynllunio (cyfeirnod: C22/0336/16/MW) ar gyfer estyniad bach i Chwarel y Penrhyn ym Mangor, gan y byddai’r estyniad dan sylw yn ymestyn i Dir Comin Llandygái.
3. Cynigir y bydd tir (y “tir cyfnewid”) yn cael ei gofrestru fel tir comin yn lle’r tir a ryddheir.
4. Disgrifir y tir a ryddheir yn Atodlen Gyntaf yr hysbysiad hwn; disgrifir y tir cyfnewid yn yr Ail Atodlen. Ar y cynllun y cyfeirir ato ym mharagraff 5 isod, dangosir y tir a ryddheir mewn coch, dangosir y tir cyfnewid mewn gwyrdd golau a dangosir ffin y tir comin mewn gwyrdd tywyll.
5. Gellir archwilio copi o’r ffurflen gais a’r cynllun sy’n dangos lleoliad y tiroedd ym Mhencadlys Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SW rhwng 9am a 4pm yn ystod yr wythnos (nid ar wyliau cyhoeddus) ac yn Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, LL57 3DP ar ddydd Llun rhwng 2pm - 6pm, ar ddydd Mawrth rhwng 10am - 12pm, ar ddydd Iau rhwng 10am - 12pm a 2pm - 5pm, ar ddydd Gwener rhwng 2pm - 5pm ac ar ddydd Sadwrn rhwng 10am - 12pm (mae’r llyfrgell ar gau ar ddydd Mercher a dydd Sul) tan 1 af Tachwedd. Gellir ei weld hefyd ar-lein yn https://www.welshslate.com/news/common-land/. Gellir cael copi o’r cais drwy ysgrifennu at Mr S Denny, Breedon Trading Limited, Pinnacle House, Breedon Quarry, Breedon On The Hill, Derby, England, DE73 8AP.
6. Dylid anfon unrhyw wrthwynebiadau neu sylwadau ysgrifenedig yn ymwneud â’r dadgofrestru a’r cyfnewid arfaethedig AR neu CYN y dyddiad hwnnw at: Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, neu PEDW.Casework@gov.wales.
7. Ni fydd modd trin llythyrau a anfonir at Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn gyfrinachol. Bydd copïau’n cael eu hanfon at yr ymgeisydd ac o bosibl at bartïon eraill â buddiant.
YR ATODLEN GYNTAF
(Y tir a ryddheir)
Mae’r tir a ryddheir yn cynnwys oddeutu 58,520m² o dir sy’n rhan o dir comin a elwir yn Dir Comin Mynydd Llandygái (CL 106). Lleolir y tir a ryddheir oddi mewn i ymyl dde-orllewinol Chwarel y Penrhyn, lle ceir caniatâd cynllunio presennol i gloddio am lechi; fodd bynnag, dim ond rhan o’r ardal honno sydd wedi’i chloddio hyd yn hyn ac fe’i dangosir mewn coch ar y cynllun y cyfeirir ato ym mharagraff 5 uchod.
YR AIL ATODLEN
(Y tir cyfnewid)
Mae’r tir cyfnewid yn cynnwys darn o dir oddeutu 58,652m² sy’n cynnwys tir pori garw yn bennaf gyda llecynnau o brysgwydd a choed bach gwasgaredig yn y rhan ogleddol. Lleolir yr ardal hon oddeutu 1.1km i’r gogledd-ddwyrain o’r tir a ryddheir ac fe’i dangosir mewn gwyrdd golau ar y cynllun y cyfeirir ato ym mharagraff 5 uchod.
Mr S Denny Breedon Trading Limited Pinnacle House Breedon Quarry, Breedon On The Hill, Derby, England, DE73 8AP
2 Hydref 2024
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Daily Post directly at: