Part of Crawshay Street and Part of Percy Street - Planning Applications
What is planned?
HYSBYSIAD STATUDOL
I gael copi print bras o’r Hysbysiad hwn, ffoniwch 03000 255 454 neu ebostiwch Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru
DEDDF CYNLLUNIO GWLAD A THREF 1990 GORCHYMYN CAU PRIFFYRDD (RHAN O CRAWSHAY STREET A RHAN O PERCY STREET, CAERDYDD) 202-
MAE GWEINIDOGION CYMRU yn bwriadu gwneud Gorchymyn o dan adran 247 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) i awdurdodi cau’r darnau o briffordd a ddisgrifir yn Atodlen 1 i’r Hysbysiad hwn. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod angen cau’r priffyrdd. Nid awdurdodir cau’r priffyrdd ond er mwyn gwneud y datblygiad yn unol â’r caniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd o dan Ran 3 o Ddeddf 1990 gan Gyngor Sir Caerdydd ar 12 Gorffennaf 2018 o dan y cyfeirnod 18/00735/MJR ar y cyd â’r cymeradwyaethau ar gyfer diwygiadau ansylweddol o dan y rhif cyfeirnod 19/03171/MJR a roddwyd ar 10 Mawrth 2020, 23/01336/NMA a roddwyd ar 18 Gorffennaf 2023 a 23/01627/NMA a roddwyd ar 11 Awst 2023 ac a ddisgrifir yn Atodlen 2 i’r Hysbysiad hwn.
Bydd Gorchymyn Cau Priffyrdd (Rhan o Crawshay Street a Rhan o Percy Street, Caerdydd) 202- (“y Gorchymyn”), os caiff ei wneud, yn peidio â chael effaith os daw’r caniatâd cynllunio mewn cysylltiad â’r datblygiad i ben neu os caiff ei ddirymu. Yn ystod yr 28 o ddiwrnodau o 29 Ebrill 2024 ymlaen, gellir edrych ar gopïau o’r Gorchymyn drafft a’r plan a adneuwyd yn rhad ac am ddim yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd, Yr Aes, Caerdydd CF10 1FL yn ystod oriau swyddfa arferol, neu gellir eu cael yn rhad ac am ddim o’r cyfeiriad isod gan ddyfynnu’r cyfeirnod qA2039214.
Rhaid anfon unrhyw wrthwynebiadau yn ysgrifenedig, gan nodi ar ba sail y’u gwneir, i: Y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu drwy e-bost i Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru erbyn 27 Mai 2024.
Os ydych yn dymuno gwrthwynebu, cefnogi neu gyflwyno sylwadau, efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ymgynghori â phersonau a sefydliadau y tu allan i Lywodraeth Cymru. Fel rhan o’r broses ymgynghori, bydd yr wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi a’ch data personol yn cael eu trosglwyddo i’r ceisydd/datblygwr ac, os oes angen, i’r awdurdod priffyrdd lleol i’w galluogi hwy i ymateb i chi. Fodd bynnag, ni fyddwn yn datgelu eich manylion personol ond pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn ymdrin â’r materion a godwyd. Pan na fo gwrthwynebiadau yn gallu cael eu datrys a phan fo’r Gorchymyn yn dod yn destun Ymchwiliad Cyhoeddus (“YC”), caiff pob gohebiaeth ei chopïo i Arolygydd yr YC ac fe’i cedwir yn y Llyfrgell YC lle y bydd ar gael i’r cyhoedd.
Os nad ydych yn dymuno i ddata personol gael eu hanfon ymlaen at drydydd parti, dylech nodi pam pan fyddwch yn cyflwyno eich gohebiaeth a bydd Gweinidogion Cymru yn copïo’r sylwadau i’r trydydd parti priodol gyda’r enw a’r cyfeiriad wedi eu dileu. Os bydd YC yn cael ei gynnal, bydd yr Arolygydd yn gweld y sylwadau ond efallai y bydd yn rhoi llai o sylw iddynt o ganlyniad i hyn.
Gellir gweld copi o’r Gorchymyn a’r Hysbysiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar https://llyw.cymru/gorchmynion-cau J SADDLER, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
ATODLEN 1
(Bras amcan yw pob mesuriad) Y darn o briffordd sydd i’w gau
1. Darn afreolaidd ei siâp o briffordd ym mhen gogleddol Percy Street, Caerdydd, sy’n 31.4 o fetrau yn y man hiraf ac yn 18.1 o fetrau yn y man lletaf, a ddangosir â llinellau sebra ac a labelir ag ‘A’ ar y plan a adneuwyd.
2. Darn afreolaidd ei siâp o briffordd ym mhen gogleddol Crawshay Street, Caerdydd, sy’n 1.2 o fetrau yn y man hiraf ac yn 10.1 o fetrau yn y man lletaf, a ddangosir â llinellau sebra ac a labelir â ‘B’ ar y plan a adneuwyd.
ATODLEN 2
Y Datblygiad
Ailddatblygu hen safle Bragdy Brains yn Crawshay Street, Caerdydd CF10 5DS i ddarparu adeilad swyddfa, campfa ategol, marchnadle/unedau manwerthu ac unedau bwyd a diod, maes parcio aml-lawr â defnydd manwerthu ategol a thir, mynediad, draenio a gwaith seilwaith arall i gyflawni cam 1 Cei Canolog.
STATUTORY NOTICE
For a large print copy of this Notice contact 03000 255 454 or email Transportordersbranch@gov.wales
TOWN AND COUNTRY PLANNING ACT 1990
THE STOPPING UP OF HIGHWAYS (PART OF CRAWSHAY STREET AND PART OF PERCY STREET, CARDIFF) ORDER 202-
THE WELSH MINISTERS propose to make an Order under section 247 of the Town and Country Planning Act 1990 (“the 1990 Act”) to authorise the stopping up of the lengths of highway described in Schedule 1 to this Notice. The Welsh Ministers are satisfied that the stopping up is necessary, and it will be authorised only in order to enable the development to be carried out in accordance with outline planning permission granted under Part 3 of the 1990 Act by Cardiff County Council on 12 July 2018 with reference 18/00735/MJR accompanied by the non-material amendment approvals with reference number 19/03171/MJR granted on 10th March 2020, 23/01336/NMA granted on 18 July 2023 and 23/01627/NMA granted on 11 August 2023 and described in Schedule 2 to this Notice.
The Stopping Up of Highways (Part of Crawshay Street and Part of Percy Street, Cardiff) Order 202- (“the Order”), if made, will cease to have effect if planning permission in respect of the development expires or is revoked.
During 28 days from 29 April 2024 copies of the draft Order and the deposited plan may be inspected free of charge during normal office hours from Monday to Saturday at Cardiff Central Library, The Hayes, Cardiff CF10 1FL, or may be obtained free of charge from the address below quoting reference qA2039214.
Objections, specifying the grounds on which they are made, must be sent in writing to Orders Branch, Transport, Welsh Government, Cathays Park, Cardiff CF10 3NQ or by email to TransportOrdersBranch@gov.wales by 27 May 2024.
Should you wish to object, support or make representations, the Welsh Government may need to consult with persons and organisations outside the Welsh Government.
As part of the consultation process, the information you have provided and your personal data will be passed to the applicant/developer and, if necessary, to the local highway authority to enable them to respond to you. We will, however, only disclose your personal details where it is necessary to do so to address the issues raised. Where objections cannot be resolved and the Order becomes subject to a Public Inquiry (“PI”), all correspondence is copied to the Inspector of the PI and is available in the PI library when it becomes publicly available.
If you do not wish personal data to be forwarded to third parties, you should state why when submitting your correspondence and the Welsh Ministers will copy the representations to the appropriate third parties with the name and address removed and if there is to be a PI, the representations will be seen by the Inspector who may give them less weight as a result.
A copy of the Order and Notice can be viewed on the Welsh Government’s website at https://gov.wales/stopping-orders
J SADDLER, Transport, Welsh Government
SCHEDULE 1
(All measurements are approximate) Length of highway to be stopped up
1. An irregular-shaped of highway located at the northern end of Percy Street, Cardiff, with a maximum length of 31.4 metres and a maximum width of 18.1 metres, marked with zebra hatching and labelled ‘A’ on the deposited plan.
2. An irregular-shaped of highway located at the northern end of Crawshay Street, Cardiff, with a maximum length of 1.2 metres and a maximum width of 10.1 metres, marked with zebra hatching and labelled ‘B’ on the deposited plan.
SCHEDULE 2
The Development
Re-development of the former Brains Brewery site at Crawshay Street, Cardiff CF10 5DS to provide an office building, ancillary gym, market place/retail and food and drink units, a multi storey car park with ancillary retail use and realm, access, drainage and other infrastructure works for the delivery of Central Quay phase 1.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: