Public Notice Portal - Brought to you by Britain's Local News Media
Planning

Snowdonia National Park Authority - Sole or main place of residence application

LL48Published 03/04/24Expired
Cambrian News series • 

What is planned?

Rhybudd Cyhoeddus
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Gorchymyn Cynllunio Gwlad A Thref (Datblygiad Cyffredinol A Ganiateir) 1995 (Fel Y'i Diwygiwyd)

Rhybudd Y Gwneir Cyfarwyddyd Na Ddaw I Rym Ar Unwaith O Dan Erthygl 4(1) Defnydd O Annedd, A Ddefnyddir Fel Unig Neu Brif Man Preswyl (C3) Fel Annedd Dŷ, A Ddefnyddir Yn Wahanol I Ddefnydd Fel Unig Neu Brif Leoliad Preswyl (C5) Ac Anheddau Gosod Tymor Byr (C6) Yn Ardal Awdurdod Cynllunio Parc
Cenedlaethol Eryri

Rhoddir Rhybudd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri/ Snowdonia National Park Authority (“yr Awdurdod”) sef yr awdurdod cynllunio lleol priodol ei fod yn bwriadu gwneud Cyfarwyddyd o dan erthygl 4(1) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (fel y’i diwygiwyd) (“y Gorchymyn"),

Cynigir bod y Cyfarwyddyd yn cael ei wneud o fewn 12 mis i’r rhybudd yn ddarostyngedig i roi ystyriaeth bellach i unrhyw sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori ac wedi hynny cynigir iddo ddod i rym, yn ddarostyngedig i gadarnhad gan yr Awdurdod, ar y 1af o Fehefin 2025.

Cynigir bod y Cyfarwyddyd yn berthnasol / cael ei gymhwyso i’r datblygiad a nodir yn yr Atodlen i’r Rhybudd hwn ac mae’n dileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer y mathau hyn o ddatblygiad.

Effaith y Cyfarwyddyd yw na fydd caniatadau cynllunio a roddir gan Erthygl 3 o'r Gorchymyn yn gymwys / berthnasol i'r datblygiad a ddisgrifir uchod ac ni fydd datblygiad o'r fath yn cael ei wneud o fewn Parc Cenedlaethol Eryri oni bai fod yr Awdurdod yn rhoi caniatâd cynllunio i gais a wneir o dan Rhan III o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd).

Gellir gweld copi o’r Cyfarwyddyd a chynllun yn dangos yr ardal y mae’n berthnasol iddi yn y lleoliadau canlynol (yn ystod eu oriau agor arferol):-

Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LF.

Llyfrgelloedd Cyhoeddus: Abermaw, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Dolgellau, Penygroes, Tywyn, Porthmadog, Y Bala, Cerrigydrudion, Conwy, Llanfairfechan, Llanrwst, Penmaenmawr

Canolfannau Gwybodaeth Betws y Coed, Beddgelert ac Aberdyfi

Fel arall, gellir gweld copi o’r Cyfarwyddyd, gan gynnwys y cynllun sy’n dangos yr ardal y mae’n berthnasol iddi: Ar-lein: www.cynllunio.eryri.llyw.cymru/polisi/erthygl4

Dylid cyflwyno unrhyw sylwadau ynghylch y Cyfarwyddyd hwn yn ysgrifenedig drwy’r dulliau canlynol:

Ar lein: www.cynllunio.eryri.llyw.cymru/polisi/erthygl4 E-bost: Polisi.Erthygl4@eryri.llyw.cymru

Llythyr: Cyf: Cyfarwyddyd Erthygl 4 2024, Adran Polisi Cynllunio, Swyddfa'r Parc Cenedlaethol, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LF.

Bydd rhaid cyflwyno unrhyw sylw rhwng Ebrill 12fed 2024 a Mai 24ain 2024 erbyn 5yp fan bellaf. Sylwch y bydd unrhyw sylwadau a dderbynnir yn gofnod cyhoeddus ac efallai y cânt eu cyhoeddi. Bydd unrhyw ddata personol yn cael ei brosesu yn unol â'r Datganiad Preifatrwydd, sydd ar gael ar wefan yr Awdurdod.

Atodlen

Y disgrifiadau canlynol o ddatblygiadau y cyfeirir atynt yn Nosbarth I o Ran 3 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn a enwyd:

  1. Datblygiad sy'n cynnwys newid defnydd adeilad
    1. o ddefnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C3 (tai annedd, a ddefnyddir fel unig neu brif breswylfeydd) o’r Atodlen i’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd —
      1. i ddefnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C5 (tai annedd, a ddefnyddir ac eithrio fel unig neu brif breswylfeydd) o'r Atodlen honno;
      2. i ddefnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C6 (gosodiadau tymor byr) o'r Atodlen honno;
      3. i ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnydd fel tŷ annedd o fewn Dosbarth C3 (tai annedd, a ddefnyddir fel unig neu brif breswylfeydd) â defnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C6 (gosodiadau tymor byr) o’r Atodlen honno;
      4. i ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnydd fel tŷ annedd o fewn Dosbarth C5 (tai annedd, a ddefnyddir ac eithrio fel unig neu brif breswylfeydd) â defnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C6 (gosodiadau tymor byr) o’r Atodlen honno;
    2. o ddefnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C5 (tai annedd, a ddefnyddir ac eithrio fel unig neu brif breswylfeydd) o’r Atodlen i’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd —
      1. i ddefnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C6 (gosodiadau tymor byr) o'r Atodlen honno;
      2. i ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnydd fel tŷ annedd o fewn Dosbarth C5 (tai annedd, a ddefnyddir ac eithrio fel unig neu brif breswylfeydd) â defnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C6 (gosodiadau tymor byr) o’r Atodlen honno;
      3. i ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnydd fel tŷ annedd o fewn Dosbarth C3 (tai annedd, a ddefnyddir fel unig neu brif breswylfeydd) â defnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C6 (gosodiadau tymor byr) o’r Atodlen honno;
    3. o ddefnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C6 (gosodiadau tymor byr) o’r Atodlen i’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd—
      1. i ddefnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C5 (tai annedd, a ddefnyddir ac eithrio fel unig neu brif breswylfeydd) o'r Atodlen honno;
      2. i ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnydd fel tŷ annedd o fewn Dosbarth C5 (tai annedd, a ddefnyddir ac eithrio fel unig neu brif breswylfeydd) â defnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C6 (gosodiadau tymor byr) o’r Atodlen honno;
    4. o ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnyddiau sy’n disgyn o fewn Dosbarth C3 (tai annedd, a ddefnyddir fel unig neu brif breswylfeydd) a Dosbarth C6 (gosodiadau tymor byr) o’r Atodlen i’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd—
      1. i ddefnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C5 (tai annedd, a ddefnyddir ac eithrio fel unig neu brif breswylfeydd) o'r Atodlen honno;
      2. i ddefnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C6 (gosodiadau tymor byr) o'r Atodlen honno;
      3. i ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnydd fel tŷ annedd o fewn Dosbarth C5 (tai annedd, a ddefnyddir ac eithrio fel unig neu brif breswylfeydd) â defnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C6 (gosodiadau tymor byr) o’r Atodlen honno;
    5. o ddefnydd cymysg sy’n cyfuno defnyddiau sy’n disgyn o fewn Dosbarth C5 (tai annedd, a ddefnyddir ac eithrio fel unig neu brif breswylfeydd) a Dosbarth C6 (gosodiadau tymor byr) o’r Atodlen i’r Gorchymyn Dosbarthiadau Defnydd—
      1. i ddefnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C5 (tai annedd, a ddefnyddir ac eithrio fel unig neu brif breswylfeydd) o'r Atodlen honno;
      2. i ddefnydd sy’n disgyn o fewn Dosbarth C6 (gosodiadau tymor byr) o'r Atodlen honno.

Public Notice
Snowdonia National Park Authority
The Town And Country Planning (General Permitted Development) Order 1995 (As Amended)

Notice Of Making Of A Non-Immediate Direction Under Article 4(1) Use Of Dwelling, Used As Sole Or Main Place Of Residence (C3) As Dwellinghouse, Used Otherwise Than As A Sole Or Main Place Of Residence (C5) And Short-Term Lets (C6) In The Eryri/Snowdonia National Park Planning Authority Area

Notice Is Given by Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri/Snowdonia National Park Authority (“the Authority”) being the appropriate local planning authority that it proposes to make a Direction under article 4(1) of the Town and Country Planning (General Permitted Development) Order 1995 (as amended) (“the Order”),

The Direction is being proposed to be made within 12 months of the notice subject to the further consideration of any representations received during the consultation period and thereafter is proposed to come into effect, subject to confirmation by the Authority, on 1st of June 2025.

The Direction is proposed to apply to the development specified in the Schedule to this Notice and removes permitted development rights for these types of development.

The effect of the Direction is that planning permissions granted by Article 3 of the Order shall not apply to development described above and such development shall not be carried out within the Eryri/Snowdonia National Park unless planning permission is granted by the Authority on an application made under Part III of the Town and Country Planning Act 1990 (as amended).

A copy of the Direction and a plan showing the area to which it relates may be seen at the following locations (during their normal opening hours):-

National Park Office, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LF.

Public Libraries: Abermaw, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Dolgellau, Penygroes, Tywyn, Porthmadog, Y Bala, Cerrigydrudion, Conwy, Llanfairfechan, Llanrwst, Penmaenmawr

Information Centres: Betws y Coed, Beddgelert and Aberdyfi

Alternatively, a copy of the Direction, including the plan showing the area to which it relates can be viewed: Online: www.planning.snowdonia.gov.wales/policy/article4

Any representations concerning this Direction should be submitted via the following means:- Online: www.planning.snowdonia.gov.wales/policy/article4

Email: Policy.Article4@snowdonia.gov.wales

Letter: Ref: Article 4 Direction 2024, Planning Policy Section, National Park Office, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6LF.

All representations should be received between 12th April 2024 and May 24th 2024 by no later than 5pm. Please note that any representations received will be of public record and may be published. Any personal data

will be processed in line with the Privacy Statement, Schedule

The following descriptions of development referred to in Class I of Part 3 of Schedule 2 of the said Order:

(1) Development consisting of a change of use of a building

  1. from a use falling within Class C3 (dwellinghouses, used as sole or main residences) of the Schedule to the Use Classes Order —
    1. to a use falling within Class C5 (dwellinghouses, used otherwise than as sole or main residences) of that Schedule;
    2. to a use falling within Class C6 (short-term lets) of that Schedule;
    3. to a mixed use combining use as a dwellinghouse within Class C3 (dwellinghouses, used as sole or main residences) with a use falling within Class C6 (short-term lets) of that Schedule;
    4. to a mixed use combining use as a dwellinghouse within Class C5 (dwellinghouses, used otherwise than as sole or main residences) with a use falling within Class C6 (short-term lets) of that Schedule;
  1. from a use falling within Class C5 (dwellinghouses, used otherwise than as sole or main residences) of the Schedule to the Use Classes Order —
    1. to a use falling within Class C6 (short-term lets) of that Schedule;
    2. to a mixed use combining use as a dwellinghouse within Class C5 (dwellinghouses, used otherwise than as sole or main residences) with a use falling within Class C6 (short-term lets) of that Schedule;
    3. to a mixed use combining use as a dwellinghouse within Class C3 (dwellinghouses, used as sole or main residences) with a use falling withing Class C6 (short-term lets) of that Schedule;
  1. from a use falling within Class C6 (short-term lets) of the Schedule to the Use Classes Order—
    1. to a use falling within Class C5 (dwellinghouses, used otherwise than as sole or main residences) of that Schedule;
    2. to a mixed used combining use as a dwellinghouse within Class C5 (dwellinghouses, used otherwise than as sole or main residences) with a use falling within Class C6 (short-term lets) of that Schedule;
  1. from a mixed use combining uses falling within Class C3 (dwellinghouses, used as sole or main residences) and Class C6 (short-term lets) of the Schedule to the Use Classes Order—
    1. to a use falling within Class C5 (dwellinghouses, used otherwise than as sole or main residences) of that Schedule;
    2. to a use falling within Class C6 (short-term lets) of that Schedule;
    3. to a mixed used combining use as a dwellinghouse within Class C5 (dwellinghouses, used otherwise than as sole or main residences) with a use falling within Class C6 (short-term lets) of that Schedule;
  1. from a mixed use combining uses falling within Class C5 (dwellinghouses, used otherwise than as sole or main residences) and Class C6 (short-term lets) of the Schedule to the Use Classes Order—
    1. to a use falling within Class C5 (dwellinghouses, used otherwise than as sole or main residences) of that Schedule;
    2. to a use falling within Class C6 (short-term lets) of that Schedule.

The proposed direction will not have an impact on uses falling in class C5 or C6 changing use back to use class C3.

Need to publish a public notice?

If you need to publish a public notice, please contact Cambrian News series directly at:

gio@cambrian-news.co.uk

01970 615000

About Us

The Public Notice Portal is owned and operated by the News Media Association, the voice of UK national, regional, and local newspapers in all their print and digital forms. NMA members include nearly 900 local and regional news titles which reach 42 million people across the length and breadth of the country each month.

Public Notice PortalNews Media Association