Try our AI Explainer
This notice is long. Get a simplified view of the most important information, including key dates and locations is seconds.
Carmarthenshire - Multiple Traffic Notices
What is happening?
Gorchymyn Sir Gaerfyrddin Ffyrdd Amrywiol - Yr C2164 o Gil-y-Cwm, Llanymddyfri (SA20 0SN) (Gwaharddiad Dros Dro ar Draffig Trwodd) 2026
HYSBYSIR drwy hyn fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu, heb fod yn llai na saith niwrnod wedi dyddiad yr Hysbysiad hwn, gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd y darnau ffyrdd a ddisgrifir yn fwy penodol yn yr Atodlen i’r Hysbysiad hwn.
Lle bo’n bosibl caniateir i gerddwyr ac i gerbydau gael mynediad i eiddo unigol drwy gydol y cyfnod y bydd y ffordd ar gau.
Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud fel rhan o raglen dreigl i darfu cyn lleied â phosibl. Bydd y ffordd arall ar gyfer traffig yn cael ei phennu ac arwyddion yn cael eu gosod yn unol â hynny wrth i’r gwaith fynd rhagddo.
Dim ond un ffordd fydd ar gau ar unrhyw adeg.
Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn parhau mewn grym wrth i BT Openreach wneud gwaith ar geblau.
Bwriedir i’r gwaith ddechrau dydd Llun 12 Hydref 2026 tan ddydd Mercher 21 Hydref 2026, sef cyfnod o 8 diwrnod gwaith.
Lle bo hynny’n briodol gall Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Ffyrdd dros dro barhau mewn grym am hyd at ddeunaw mis.
Cyfeirnod: SLB/HTTR-2102 cyfeiriad e-bost: SLBannister@sirgar.gov.uk
DYDDIEDIG y 23ain o Fedi 2026 Wendy Walters, Y Prif Weithredwr Neuadd y Sir, Caerfyrddin
YR ATODLEN
|
Y Ffordd Dosbarth III (yr C2164) o Gil-y-cwm, Llanymddyfri |
O'r gyffordd â'r C2157 Cil-y-cwm i Randir-mwyn am oddeutu 240 metr i gyfeiriad y de-orllewin. |
|
Y Ffordd Dosbarth III (yr C2164) o Gil-y-cwm, Llanymddyfri |
O fan sydd 260 metr i’r de-orllewin o'r C2157 Cil-y-cwm i Randir-mwyn am oddeutu 390 metr i gyfeiriad y gorllewin. |
|
Y Ffordd Dosbarth III (yr C2164) o Gil-y-cwm, Llanymddyfri |
O fan sydd 653 metr i’r de-orllewin o'r C2157 Cil-y-cwm i Randir-mwyn am oddeutu 800 metr i gyfeiriad y gorllewin. |
|
Y Ffordd Dosbarth III (yr C2164) o Gil-y-cwm, Llanymddyfri |
O'r gyffordd â'r C2270 Cynghordy i Borth-y-rhyd am oddeutu 65 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin. |
Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardal Gadwraeth) 1990
HYSBYSIAD DAN ADRAN 67 - CANIATAD CYNLLUNIO RHESTREDIG HYSBYSIAD DAN ADRAN 73 - DATBLYGIAD O FEWN ARDAL GADWRAETH HYSBYSIAD O DAN REOLIAD 5
PL/11323 - Gwaith strwythurol brys gan gynnwys dymchwel talcen deheuol peryglus (ôl-weithredol) ac ailadeiladu’r talcen, y gornel dde-ddwyreiniol a mannau diffygiol llai gan ddefnyddio gwaith maen wedi’i arbed/gwaith maen cyfatebol wedi’i osod mewn morter calch. Atgyweirio gwaith maen brau gan ddefnyddio morter calch (yr holl waith brys a gyflawnwyd cyn yr hysbysiad o dan Adran 117 o Ddeddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023). Ailrendro â chalch gyda gorffeniad mân, llyfn wedi’i orffen â llaw, gan greu wyneb ychydig yn donnog i ddilyn cyfuchliniau’r gwaith maen. Bydd lliw’r paent yn cyd-fynd â Uplands Mansion (ocr melyn). Creu mynedfa allanol o fewn wal yr ardd sy’n ffinio â’r bwthyn yn Honeysuckle Cottage, Uplands Mansion, Uplands, Caerfyrddin, SA32 8DZ ar gyfer Tom Dwyer-Mann
PL/11374 – Gosod Wyneb Siop ac Arwydd Siop Ddiodydd Drwyddedig, 25 Heol Las, Caerfyrddin, SA31 3LE ar gyfer Mrs Gurpreet Gahla
Noder bod cais / ceisiadau wedi ei / eu (d)derbyn yn unol â’r ddeddf / rheol uchod.
Gellir gweld y cais, y cynlluniau ac unrhyw wybodaeth ategol ar-lein drwy fynd i:
www.sirgar.gov.uk/ceisiadaucynllunio neu yn unrhyw un o’n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ystod yr oriau swyddfa.
Os dymunwch wneud sylwadau ar y datblygiad arfaethedig, rhaid ichi wneud hynny cyn pen 21 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn. Gallwch gyflwyno sylwadau ar-lein drwy fynd i’r ddolen gyswllt uchod, drwy anfon e-bost: ymgynghoriadaucynllunio@sirgar.gov.uk neu drwy anfon llythyr i’r Gwasanaethau Cynllunio, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LE.
Oherwydd yr holl ohebiaeth y mae’r Adran yn ei chael, ni fyddwn yn cydnabod ein bod wedi cael eich sylwadau nac, fel rheol, yn ymateb i’r sylwadau/cwestiynau a gyflwynir. Sylwch os byddwch yn cyflwyno sylwadau ar y datblygiad arfaethedig, y bydd y wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd ar-lein.
Dyddiad yr Hysbysiad: 23.09.2026
Y Dyddiad Cau: 14.10.2026
The County of Carmarthenshire Various Roads - C2164 from Cilycwm, Llandovery (SA20 0SN) (Temporary Prohibition of Through Traffic) Order 2026
NOTICE is hereby given that the Carmarthenshire County Council intend, not less than seven days from the date of this Notice, to make an Order the effect of which will be to prohibit any vehicle from proceeding along the length of roads more particularly described in the Schedule to this Notice.
Pedestrian and vehicular access to individual properties will be maintained where possible throughout the duration of the closure.
These works will be carried out on a rolling programme to minimise disruption.
The alternative route for traffic will be determined and signed accordingly as works progress.
Only one road closure will be in place at any time.
The proposed Order will continue in force whilst BT Openreach carry out cabling works.
It is intended that the works commence on Monday 12th October 2026 until Wednesday 21st October 2026, a period of 8 working days.
Where appropriate temporary Road Traffic Regulation Orders may continue in force for a period not exceeding eighteen months.
Reference: SLB/HTTR-2102
e-mail address: SLBannister@carmarthenshire.gov.uk
DATED the 23rd September 2026 Wendy Walters, Chief Executive, County Hall, Carmarthen
SCHEDULE
|
Class III (C2164) from Cilycwm, Llandovery |
From its junction with the C2157 Cilycwm to Rhandirmwyn for approximately 240 metres in a South Westerly direction. |
|
Class III (C2164) from Cilycwm, Llandovery |
From a point 260 metres Southwest of the C2157 Cilycwm to Rhandirmwyn for approximately 390 metres in a Westerly direction. |
|
Class III (C2164) from Cilycwm, Llandovery |
From a point 653 metres Southwest of the C2157 Cilycwm to Rhandirmwyn for approximately 800 metres in a Westerly direction. |
|
Class III (C2164) from Cilycwm, Llandovery |
From its junction with the C2270 Cynghordy to Porthyrhyd for approximately 65 metres in a North Westerly direction. |
Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Regulations 1990
NOTICE UNDER SECTION 67 - LISTED BUILDING CONSENT
NOTICE UNDER SECTION 73 - DEVELOPMENT WITHIN A CONSERVATION AREA
NOTICE UNDER REGULATION 5
PL/11323 - Urgent structural works including demolition of dangerous south gable (retrospective) and rebuilding gable, southeastern corner and smaller defective areas in salvaged/matching masonry laid in lime mortar. Dubbing out friable masonry in lime mortar (all emergency works prior to notice under S. 117 of the 2023 Historic Environment (Wales) Act.
Re-render in lime with a fine, smooth hand-floated finish, softly undulating to follow the contours of the masonry. Paint colour to match Uplands Mansion (yellow-ochre). Creation of external gateway within garden wall abutting cottage at Honeysuckle Cottage, Uplands Mansion, Uplands, Carmarthen, SA32 8DZ for Tom Dwyer-Mann
PL/11374 – Installation of Shop Fascia and Off-Licence Signage at 25 Blue Street, Carmarthen, SA31 3LE for Mrs Gurpreet Gahla Take notice that application(s) have been received under the above legislation/regulation.
The application, plans, and any supporting information can be viewed on-line at: www.carmarthenshire.gov.uk/planningapplications or any of our Customer Services Centre during office hours.
If you wish to comment on the proposed development, you must do so within 21 days of the date on this notice.
You can comment on the application either online using the link above, by email: planningconsultations@carmarthenshire.gov.uk or by letter to Planning Services, 3 Spilman Street, Carmarthen, SA31 1LE.
Given the volume of correspondence that the Department receives, we will not acknowledge receipt of your comments or, as a rule, respond to the comments or questions submitted. Please note that if you do comment on the proposed development, this information will be publicly available online.
Date of Notice: 23.09.2026
Deadline Date: 14.10.2026
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Carmarthen Journal directly at: