Carmarthenshire - Multiple Traffic Notices
What is happening?
Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Yr C2173 Caio (O Dderwen-Fawr i Gaio)) (Gwaharddiad Dros Dro ar Draffig Trwodd) 2025
HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu, heb fod yn llai na saith niwrnod wedi dyddiad yr Hysbysiad hwn, gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd yr C2173 Caio, o'r gyffordd â Ffordd Ddiddosbarth 4059 (o Dderwen-fawr i Gaio) am bellter o 410 metr i gyfeiriad cyffredinol y gogledd.
Mae angen cau'r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin adnewyddu llawr Pont Glanyrannell.
Y Ffordd Arall ar gyfer traffig sydd am deithio tua'r de fydd parhau i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd ffordd ddiddosbarth rhif 4059 (o Dderwen-fawr i Gaio) hyd at y gyffordd â'r A482 (Crug-y-bar i Bumsaint). Troi i'r chwith wrth y gyffordd a pharhau i gyfeiriad cyffredinol y de-ddwyrain ar hyd yr A482 (Crug-y-bar i Bumsaint) am oddeutu 1.5 cilometr, hyd at y gyffordd â'r C2173. Troi i'r chwith wrth y gyffordd a pharhau i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd yr C2173 i ddychwelyd i fan sydd i'r de-ddwyrain o'r man lle mae'r ffordd ar gau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gogledd.
Bydd y Gorchymyn arfaethedig yn parhau mewn grym hyd nes bod y gwaith wedi ei gwblhau. Bwriedir i'r gwaith ddechrau ar 11 Awst 2025, am gyfnod o 8 wythnos. Lle bo hynny'n briodol gall Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Ffyrdd dros dro barhau mewn grym am hyd at ddeunaw mis. Cyfeirnod: MAE/HTTR-1937 cyfeiriad e-bost: annevans@sirgar.gov.uk
Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Yr C2078 Llangynog) (Gwaharddiad dros dro ar Draffig Trwodd) 2025
HYSBYSIR trwy hyn fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu, heb fod llai na saith (7) niwrnod o ddyddiad yr Hysbysiad hwn, gwneud Gorchymyn a fydd yn gwahardd unrhyw gerbyd rhag mynd ar hyd darn o ffordd yr C2078 yn Llangynog yn Sir Gaerfyrddin a ddangosir gan linell goch ar y cynllun amgaeedig, o'i gyffordd â ffordd yr U2131 am bellter o 1.1 cilometr i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain.
Mae angen cau'r darn hwn o'r ffordd i sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth i waith gael ei wneud gan neu ar ran Openreach ar geblau uwchben ac o dan y ddaear.
Lle bo'n bosibl, caniateir i gerddwyr ac i gerbydau gael mynediad i eiddo unigol drwy gydol y cyfnod y bydd y ffordd ar gau.
Bydd y Gorchymyn yn parhau mewn grym hyd nes bod y gwaith ceblau wedi ei gwblhau. Bwriedir i'r gwaith ddechrau ddydd Mercher y 27ain o Awst 2025 a pharhau am gyfnod o un ar ddeg (11) diwrnod. Lle bo hynny'n briodol, gall gorchmynion rheoleiddio traffig ffyrdd dros dro barhau mewn grym am hyd at ddeunaw (18) mis.
Y Ffordd Arall ar gyfer traffig sydd am deithio tua'r gogledd-ddwyrain, o fan sydd i'r de-orllewin o'r man lle mae'r ffordd ar gau, fel y dangosir gan linell las doredig ar y cynllun amgaeedig, fydd parhau i gyfeiriad y de-ddwyrain ar hyd ffordd yr U2131 hyd at y gyffordd â ffordd yr U2124. Troi i'r chwith wrth y gyffordd a pharhau i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd ffordd yr U2124 hyd at y gyffordd â ffordd yr C2078. Troi i'r chwith wrth y gyffordd a pharhau i gyfeiriad y de-orllewin ar hyd ffordd yr C2078 i ddychwelyd i fan sydd i'r gogledd-ddwyrain o'r man lle mae'r ffordd ar gau.
Ac i'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-orllewin. Cyfeirnod y Ffeil: HMD/HTTR-1915 Llinell Uniongyrchol: 01267 224066 E-bost: HeMDavies@sirgar.gov.uk
Dyddiedig y 23ain o Orffennaf 2025.
Wendy Walters, Y Prif Weithredwr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardal Gadwraeth) 1990
HYSBYSIAD DAN ADRAN 67 - CANIATAD CYNLLUNIO RHESTREDIG HYSBYSIAD DAN ADRAN 73 - DATBLYGIAD O FEWN ARDAL GADWRAETH HYSBYSIAD O DAN REOLIAD 5
PL/09556 Gosod arwyddion bancio newydd Lloyds yn Lloyds Bank 42-43 Stryd y Brenin, Caerfyrddin, SA31 1BW ar gyfer Lloyds Banking
PL/09593 Gosod peiriant arian parod newydd yn NatWest Bank, 59 Heol y Brenin, Caerfyrddin, SA31 1AN ar gyfer Grŵp NatWest
DEDDF CYNLLUNIO (ADEILADAU RHESTREDIG AC ARDALOEDD CADWRAETH) 1990 - HYSBYSIAD DAN ADRAN 67 - DATBLYGIAD SY’N EFFEITHIO AR LEOLIAD ADEILAD COFRESTRYD A Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref(Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 - HYSBYSIAD O DAN ERTHYGL 12 (4) neu (5)
PL/09481 Gwella ac estyn y sied goedwigaeth/storio bresennol a gwneud gwaith lliniaru ecolegol a dŵr wyneb (ôl-weithredol) ar dir i'r dwyrain o Llanmiloe House, Llanmilo, Talacharn, SA33 4TZ ar gyfer Mr Darrin Thomas
Noder bod cais / ceisiadau wedi ei / eu (d)derbyn yn unol â’r ddeddf / rheol uchod. Gellir gweld y cais, y cynlluniau ac unrhyw wybodaeth ategol ar-lein drwy fynd i: www.sirgar.gov.uk/ceisiadaucynllunio neu yn unrhyw un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ystod yr oriau swyddfa.
Os dymunwch wneud sylwadau ar y datblygiad arfaethedig, rhaid ichi wneud hynny cyn pen 21 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn. Gallwch gyflwyno sylwadau ar-lein drwy fynd i’r ddolen gyswllt uchod, drwy anfon e-bost: ymgynghoriadaucynllunio@sirgar.gov.uk neu drwy anfon llythyr i'r Gwasanaethau Cynllunio, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LE.
Oherwydd yr holl ohebiaeth y mae'r Adran yn ei chael, ni fyddwn yn cydnabod ein bod wedi cael eich sylwadau nac, fel rheol, yn ymateb i'r sylwadau/cwestiynau a gyflwynir. Sylwch os byddwch yn cyflwyno sylwadau ar y datblygiad arfaethedig, y bydd y wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd ar-lein.
Dyddiad yr Hysbysiad: 23.07.2025 Y Dyddiad Cau: 13.08.2025
The County of Carmarthenshire (C2173 Caio (From Derwen Fawr to Caio)) (Temporary Prohibition of Through Traffic) Order 2025
NOTICE is hereby given that Carmarthenshire County Council intend, not less than seven days from the date of this Notice, to make an Order the effect of which will be to prohibit any vehicle from proceeding along the C2173 Caio from its junction with the Unclassified 4059 (from Derwen Fawr to Caio) for a distance of 410 metres in a general northerly direction.
The closure is necessary to ensure public safety whilst Carmarthenshire County Council undergo the deck replacement for Glanyrannell Bridge.
The Alternative Route for southbound traffic will be to proceed in a south-westerly direction along the Unclassified road number 4059 (from Derwen Fawr to Caio) to its junction with the A482 (Crugybar to Pumsaint). At the junction turn left and continue in a general south-easterly direction along the A482 (Crugybar to Pumsaint), for approximately 1.5 kilometres, to its junction with the C2173. At the junction, turn left and continue in a north-easterly direction along the C2173 to return to a point south-east of the closure. Vice versa for northbound traffic.
The proposed Order will continue in force until the work is complete. It is intended that the works will commence on 11 August 2025, for a period of 8 weeks. Where appropriate temporary Road Traffic Regulation Orders may continue in force for a period not exceeding eighteen months. Reference: MAE/HTTR-1937 e-mail address: annevans@carmarthenshire.gov.uk
The County of Carmarthenshire (C2078 Llangynog) (Temporary Prohibition of Through Traffic) Order 2025
NOTICE is hereby given that, not less than seven (7) days from the date of this Notice, Carmarthenshire County Council intends to make an Order, the effect of which will be to prohibit any vehicle from proceeding along a length of the C2078 road in Llangynog in the County of Carmarthenshire shown with a red line on the enclosed plan, from its junction with the U2131 road for a distance of 1.1 kilometres in a north-easterly direction.
The closure of this section of road is necessary to ensure public safety whilst underground and overhead cabling works are carried out by or on behalf of Openreach.
Pedestrian and vehicular access to individual properties will be maintained where possible for the duration of the closure.
The Order will continue in force until the cabling works have been completed. It is intended that the works will commence on Wednesday 27th August 2025 and continue for a period of eleven (11) days. Where appropriate, temporary road traffic regulation orders may continue in force for a period not exceeding eighteen (18) months.
The Alternative Route for north-east bound traffic, from a point south-west of the closure, as shown with a dashed blue line on the enclosed plan, is to proceed in a south-easterly direction along the U2131 road to its junction with the U2124 road. At the junction, turn left and continue in a north-easterly direction along the U2124 road to its junction with the C2078 road. At the junction, turn left and continue in a south-westerly direction along the C2078 road to return to a point north-east of the closure.
And vice versa for south-west bound traffic. File Reference: HMD/HTTR-1915 Direct Line: 01267 224066 Email: HeMDavies@carmarthenshire.gov.uk
Dated this 23rd day of July 2025.
Wendy Walters, Chief Executive, County Hall, Carmarthen
Planning (Listed Buildings and Conservation Areas) Regulations 1990 NOTICE UNDER SECTION 67 - LISTED BUILDING CONSENT NOTICE UNDER SECTION 73 - DEVELOPMENT WITHIN A CONSERVATION AREA NOTICE UNDER REGULATION 5
PL/09556 New Lloyds banking signage at Lloyds Bank, 42-43 King Street, Carmarthen, SA31 1BW for Lloyds Banking
PL/09593 The replacement of the external ATM at Nat West Bank, 59 King Street, Carmarthen, SA31 1AN for Natwest Group
THE PLANNING (LISTED BUILDINGS AND CONSERVATION AREAS) ACT 1990 - NOTICE UNDER SECTION 67 - DEVELOPMENT AFFECTING THE SETTING OF A LISTED BUILDING The Town and Country Planning (Development Management Procedure) (Wales) Order 2012 - NOTICE UNDER ARTICLE 12(4) or (5)
PL/09481 Upgrade and extension of existing forestry/storage shed with ecological and surface water mitigation (retrospective) at land East of Llanmiloe House, Llanmilo, Laugharne, SA33 4TZ for Mr Darrin Thomas
Take notice that application(s) have been received under the above legislation/regulation. The application, plans, and any supporting information can be viewed on-line at: www.carmarthenshire.gov.uk/planningapplications or any of our Customer Services Centre during office hours.
If you wish to comment on the proposed development, you must do so within 21 days of the date on this notice. You can comment on the application either online using the link above, by email: planningconsultations@carmarthenshire.gov.uk or by letter to Planning Services, 3 Spilman Street, Carmarthen, SA31 1LE.
Given the volume of correspondence that the Department receives, we will not acknowledge receipt of your comments or, as a rule, respond to the comments or questions submitted. Please note that if you do comment on the proposed development, this information will be publicly available online.
Date of Notice: 23.07.2025 Deadline Date: 13.08.2025
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Carmarthen Journal directly at: