Cais Am Drwydded Forol I Osod Llwybr Dros Dro A’i Dynnu O’r Safle Wedyn I Hwyluso Glanio Ar Draeth Morfa Bychan
What is happening?
Deddf Y Môr A Mynediad I’r Arfordir 2009
Rhan 4: Trwyddedu Morol
Cais Am Drwydded Forol I Osod Llwybr Dros Dro A’i Dynnu O’r Safle Wedyn I Hwyluso Glanio Ar Draeth Morfa Bychan.
Hysbysir drwy hyn, yn unol â Rhan 4, Pennod 1, Adran 68, Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, fod Robert Wynn & Sons Ltd wedi cyflwyno cais i Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gweithredu ar ran yr Awdurdod Trwyddedu, am drwydded forol i osod llwybr dros dro a’i dynnu o’r safle wedyn i hwyluso glanio ar draeth Morfa Bychan.
Gallwch weld y dogfennau cais yn rhad ac am ddim ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein, https://publicregister.naturalresources.wales/. Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais CML2312.
Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig parthed y cais hwn i’r Tîm Trwyddedu Morol, Gwasanaeth Trwyddedu Caerdydd, Ty Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0TP, neu yrru e-bost at marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uko fewn 28 diwrnod o ddyddiad y rhybudd hwn, gan ddyfynnu cyfeirnod: CML2312
Yn eich sylw/gwrthwynebiad dylech gynnwys cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post llawn y gellir anfon gohebiaeth iddo.
Byddwch yn ymwybodol y bydd sylwadau a dderbynnir yn cael eu rhannu â'r ymgeisydd a gall y byddant ar gael i'r cyhoedd ar ôl golygu manylion personol, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Cambrian News series directly at: