Ngwesty’r Village, Heol Langdon, Y Glannau - Adran 16 Deddf Tiroedd Comin 2006
What is proposed?
ADRAN 16 DEDDF TIROEDD COMIN 2006
COMIN FAIRWOOD A CLYNE CYMUNED Y MWMBWLS CYNGOR DINAS A SIR ABERTAWE
HYSBYSIR DRWY HYN Y BYDD V HIRST BA (ANRH) PG DIP TP MA MRTPI AROLYGYDD A BENODWYD GAN WEINIDOGION CYMRU YN BRESENNOL YNG Ngwesty’r Village, Heol Langdon, Y Glannau, Abertawe SA1 8QY AR 06 Awst 2024 am 10:00
er mwyn cynnal ymchwiliad cyhoeddus lleol i glywed sylwadau gan bersonau â buddiant yn y tir a gynhwysir yn y cais isod ac i glywed sylwadau gan unrhyw bersonau eraill a all ddymuno ymddangos a chael gwrandawiad. Disgwylir i’r ymchwiliad gael ei gynnal am bedwar diwrnod ac wedi hynny bydd yr Arolygydd penodedig yn paratoi adroddiad i’w ystyried gan Weinidogion Cymru.
Gellir cael copïau o’r ffurflen gais a’r dogfennau atodol ar gais gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC), Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu pedw.gwaithachos@llyw.cymru Hefyd, gall aelodau’r cyhoedd weld dogfennau’r cais ar-lein yn: https://planningcasework.service.gov.wales/cy gan ddefnyddio cyfeirnod y cais: CAS-02349-P0M2K2.
Yn ogystal, gellir cael y dogfennau wrth ysgrifennu at Mark Turner, Aaron & Partners LLP, Solicitors, Grosvenor Court, Foregate Street, Caer, CH1 1HG.
Mae’r cais tir Comin wedi’i gyflwyno gan Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Gwlad yr Haf o dan adran 16 Deddf Tiroedd Comin 2006. Os rhoddir caniatâd gan Weinidogion Cymru, bydd yn awdurdodi dadgofrestru a chyfnewid tir comin.
Disgrifir y tir i’w ryddhau a’r tir amnewid yn yr atodlenni isod:
YR ATODLEN GYNTAF (Y tir i’w ryddhau)
Dwy lain o dir yn mesur 27,758 metr sgwâr sy’n rhan o Gomin Fairwood a Clyne (Uned Gofrestru TC15). Mae’r brif lain
yn wynebu Chestnut Avenue ac i’r gorllewin o Mulberry Avenue, gyda llain lai o dir i’r dwyrain o Mulberry Avenue yn West Cross SA3 5NH.
YR AIL ATODLEN (Y tir amnewid)
Dau gae cyfagos yn mesur 34,547 metr sgwâr o dir a ddisgrifir yn fwy penodol fel tir yn Ryeground Farm, Llandeilo Ferwallt.
Ceir rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar y broses Tiroedd Comin yn: https://www.llyw.cymru/tir-comin Isabel Nethell Pennaeth Gwasanaeth. Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ Ffôn: 03000 253 326 E-bost: pedw.gwaithachos@llyw.cymru Dyddiad: 06-06-2024.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact South Wales Evening Post directly at: