Port Talbot - Hysbysaf Fod National Grid Electricity Transmission
What is happening?
ATODLEN 2
Hysbysiad o dan Erthyglau 10 a 25 Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu)(Cymru) 2012
HYSBYSIAD O DAN ERTHYGL 10 O’R CAIS AM GANIATÂD CYNLLUNIO
Datblygiad arfaethedig yn Is-orsaf Grid Cenedlaethol Margam, Margam, Port Talbot SA13 2NF.
Hysbysaf fod National Grid Electricity Transmission yn gwneud cais i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel yr awdurdod cynllunio lleol am ganiatâd cynllunio i ymestyn is-orsaf 275 kV Margam gan gynnwys codi ystafell offer rheoli swîts wedi’i inswleiddio â nwy a dymchwel yr adeiladau rheoli ac amwynderau presennol er mwyn galluogi codi adeilad amwynderau newydd. Bydd y gwaith yn cynnwys gwrthgloddiau, rheoli dŵr wyneb a seilwaith draenio, goleuadau, teledu cylch cyfyng, trin ffiniau, parcio ceir, gwelliannau ecolegol gan gynnwys tŵr bywyd gwyllt a chaergewyll, ffyrdd mynediad mewnol gwell, generadur diesel wrth gefn, adeiladau storio a diheintio, tanc storio dŵr, generadur disel, wal amddiffyn rhag llifogydd gan gynnwys gatiau llifogydd a chloddio mawn ac ail-gladdu o fewn ffin y safle ynghyd â thirlunio priodol a gweithrediadau peirianneg cysylltiedig eraill.
Caiff aelodau o’r cyhoedd archwilio copïau o:
- Y cais
- Y cynlluniau
- A dogfennau eraill a gyflwynwyd gydag ef Ar-lein yn https://www.npt.gov.uk/cy/cynllunio-a-rheoliadeiladu/ ceisiadau-cynllunio/edrych-ar-ceisiadau-cynllunio/ A gellir ei weld yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. (gweler y cyfeiriad isod) Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud sylwadau ynglŷn â’r cais hwn ysgrifennu at awdurdod cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn Brunel Way, Llansawel, Castell nedd, SA11 2GG erbyn dydd Gwener 4 Rhagfyr Richard Gott
Ar ran National Grid Electricity Transmission
Dyddiad 13/11/2025
Datganiad o hawliau perchnogion
Nid yw rhoi caniatâd cynllunio yn effeithio ar hawliau perchnogion i gadw neu waredu eu heiddo, oni bai bod rhywfaint o ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn cytundeb neu mewn prydles.
Datganiad o hawliau tenantiaid amaethyddol Gall rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad nad yw’n amaethyddol effeithio ar ddiogelwch deiliadaeth tenantiaid amaethyddol.
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: