Footpath 17 Llanharry - Public Path Extinguishment Order
What is happening?
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL RHONDDA CYNON TAF
DEDDF PRIFFYRDD 1980 – ADRAN 118
GORCHYMYN DIDDYMU LLWYBR CYHOEDDUS
LLWYBR TROED 17 LLANHARI
Ar 5 Rhagfyr 2023 cadarnhaodd Cyngor Bwrdeistref Sirol
Rhondda Cynon Taf y gorchymyn uchod a wnaethpwyd o dan
Adran 118 o Ddeddf Priffyrdd 1980 ("y Ddeddf").
Effaith y gorchymyn fydd diddymu'r llwybr cyhoeddus a nodir yn
Atodlen yr hysbysiad yma fel y gwelir ar fap y gorchymyn.
Daw'r gorchymyn i rym ar 14 Rhagfyr 2023, ond os yw person
sy'n anfodlon â'r gorchymyn eisiau cwestiynu ei ddilysrwydd, neu
ddilysrwydd unrhyw ddarpariaeth sydd ynddo, ar y sail nad yw o
fewn pwerau'r Ddeddf, fel y'i diwygiwyd, neu ar y sail na
chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad yn y Ddeddf, fel y'i
diwygiwyd, neu unrhyw reoliad a wneir o dan y Ddeddf mewn
perthynas â'r gorchymyn, caiff ef neu hi, o dan baragraff 2 o
Atodlen 2 i'r Ddeddf fel y'i cymhwysir gan baragraff 5 o Atodlen 6
i'r Ddeddf, wneud cais i'r Uchel Lys cyn pen 6 wythnos ar ôl 14
Rhagfyr 2023.
ATODLEN
Y rhan o Lwybr Troed 17 Llanhari sy'n dechrau ar gyfeirnod grid
arolwg ordnans ST00728036, sef pwynt A ac sy'n mynd i
gyfeiriad y de, yna i'r de ddwyrain am tua 350 metr hyd at
gyfeirnod grid arolwg ordnans ST00918007, sef pwynt B, ac yna i
gyfeiriad y gorllewin am tua 30 metr hyd at gyfeirnod grid arolwg
ordnans ST00948008, sef pwynt C; dyma'r llwybr A-B-C sydd i'w
w eld ar fap y gorchymyn.
Dyddiad: 14 Rhagfyr 2023
Andrew Wilkins
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol
Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, CF40
2XX
RHONDDA CYNON TAF COUNTY BOROUGH COUNCIL
HIGHWAYS ACT 1980 SECTION 118
PUBLIC PATH EXTINGUISHMENT ORDER
FOOTPATH 17 LLANHARRY
On 5 December 2023, Rhondda Cynon Taf County Borough
Council confirmed the above order made under section 118 of
the Highways Act 1980 (“the Act”).
The effect of the order as confirmed is to extinguish the public
footpath described in the Schedule to this notice as shown on the
order map.
The order comes into force on 14 December 2023, but if a person
aggrieved by the order wants to question its validity, or that of
any provision contained in it, on the ground that it is not within the
powers of the Act, as amended, or on the ground that any
requirement of the Act, as amended, or of any regulation made
under the Act has not been complied with in relation to the order,
he or she may, under paragraph 2 of Schedule 2 to the Act as
applied by paragraph 5 of Schedule 6 to the Act, within 6 weeks
from 14 December 2023, make a n application to the High Court.
SCHEDULE
That part of Footpath 17 Llanharry commencing at Ordnance
Survey grid reference ST00728036 at point A and proceeding in
a generally southerly and then south south easterly direction for
approximately 350 metres to Ordnance Survey grid refence
ST00918007 at point B, then proceeding in a westerly direction
for approximately 30 metres to Ordnance Survey grid reference
ST00948008 at point C; this being the route shown as A-B-C on
the Order Map.
Dated: 14 December 2023
Andrew Wilkins
Director of Legal Services
The Pavilions, Cambrian Park, Clydach Vale, CF40 2XX
Need to publish a public notice?
If you need to publish a public notice, please contact Western Mail directly at: